Cwestiynau a ofynnir yn aml - tocyn parcio Gwynedd

Ydi’n bosib prynu tocyn parcio am gyfnod o 3, 6 neu 9 mis?

Gallwch brynu tocyn parcio 6 mis neu 12 mis.  Nid yw’n bosib prynu tocyn 3 na  9 mis.  Bydd y tocyn parcio 6 mis neu 12 mis yn ddilys o'r diwrnod rydych yn ei brynu.

 

Oes consesiwn ar gyfer myfyrwyr / pobl ddi-waith / pensiynwyr?

Nac oes. Fodd bynnag, gall pobl dros 60 mlwydd oed hefyd barcio am hyd at 2 awr yn y meysydd parcio arhosiad byr sy’n eiddo i Gyngor Gwynedd.

 

Ym mha feysydd parcio alla i barcio gyda tocyn parcio Gwynedd?

Gallwch barcio ym meysydd parcio arhosiad hir Cyngor Gwynedd sydd wedi eu rhestru yn y telerau ac amodau yn unig.

 

Rydw i dros 60 mlwydd oed.  Ble alla i barcio gyda tocyn parcio Gwynedd?

Os ydych dros 60 oed, gallwch hefyd barcio am ddim am hyd at 2 awr mewn unrhyw gyfnod o 24 awr ym meysydd parcio arhosiad byr y Cyngor.  Mae rhestr o’r meysydd parcio yn y telerau ac amodau - tocyn parcio Gwynedd. Bydd cloc disg yn cael ei ddarparu.  Bydd rhaid dilyn y cyfarwyddiadau ar y disg a’i arddangos gyda’r tocyn blynyddol.

 

Mae gen i docyn parcio Gwynedd ac rydw i newydd gael fy mhen-blwydd yn 60. Alla i newid y tocyn er mwyn i mi allu parcio yn y meysydd parcio arhosiad byr hefyd?

Na. Mae’n rhaid bod yn 60+ oed ar y diwrnod rydych yn prynu’r tocyn. Nid yw’n bosib newid eich manylion yn ystod y cyfnod mae’r tocyn yn ddilys.

 

Pa bryd fydda i’n derbyn y tocyn?

Dylech dderbyn eich tocyn o fewn 5 diwrnod gwaith.

 

Allai brynu mwy nag un tocyn parcio?

Gallwch - does dim cyfyngiad ar sawl tocyn parcio y gallwch eu prynu. Ond, dim ond un math o docyn y gallwch ei brynu ym mhob cais - unai 6 mis neu 12 mis. 

 

Dydw i ddim angen y tocyn bellach. Allai gael pres yn ôl?

Na. Nid yw’n bosib cael ad-daliad yn anffodus.

Os nad ydych wedi dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn ar y dudalen hon, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000 neu drwy gwblhau’r ffurflen ar-lein isod: