Rheoli Perygl Llifogydd a'r Arfordir

Daeth Cyngor Gwynedd yn Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol o dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, a chafodd ddyletswyddau statudol newydd i reoli perygl llifogydd.


Cofrestru

Rydym yn dal cofrestr o strwythurau neu nodweddion sydd yn ein barn ni yn debygol o gael effaith sylweddol ar berygl llifogydd yng Ngwynedd.  Mae'r gofrestr hon ar gael i’r cyhoedd ei harchwilio.


Ymchwilio i ddigwyddiadau llifogydd

Wedi i ni ddod yn ymwybodol o lifogydd mae’n ofynnol ein bod yn ymchwilio i’r graddau yr ydym yn ei ystyried sy’n angenrheidiol neu yn briodol:

  • pa awdurdodau rheoli perygl sydd â swyddogaethau rheoli perygl llifogydd perthnasol, ac
  • os yw pob un o’r awdurdodau rheoli perygl wedi ymarfer neu yn bwriadu ymarfer y swyddogaethau hynny mewn ymateb i’r llifogydd.

Byddwn yn cynnal ymchwiliad os yw unrhyw eiddo wedi cael llifogydd mewnol, os cafwyd nifer o achosion y bu bron iddynt fod yn llifogydd, neu os yw seilwaith pwysig wedi cael ei effeithio, ac yn cyhoeddi canlyniadau ei hymchwiliad.


Strategaeth Leol Rheoli Perygl Llifogydd

Mae’n ofynnol ein bod yn datblygu, cadw, defnyddio a monitro strategaeth i reoli perygl llifogydd lleol yng Ngwynedd. Mae perygl llifogydd lleol yn golygu'r perygl o lifogydd i ddŵr ffo wyneb, cyrsiau dŵr arferol a dŵr daear.

Rydym hefyd wedi cynnal Asesiad Amgylcheddol Strategol ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd i asesu'r effaith amgylcheddol posib ein strategaeth.

Dyma’r dogfennau:

 

Caniatáu gwaith mewn cyrsiau dŵr arferol

Cyngor Gwynedd yw’r awdurdod caniatáu a gorfodi i waith mewn cyrsiau dŵr arferol. Mae angen caniatáu a gorfodi gwaith i reoli gweithgareddau sy’n gallu cael effaith anffafriol ar berygl llifogydd a’r amgylchedd.

Mae cwrs dŵr yn unrhyw gwrs dŵr sydd heb ei ddiffinio fel prif afon.  Ceidw Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru gyfrifoldeb am ganiatâd gwaith yn y prif afonydd a’r Dosbarthau Draenio Mewnol yng Ngwynedd.

Mae ffurflen gais a nodiadau canllaw i gael caniatâd i ymgymryd â gwaith ar gael yma.  Argymhellir yn gryf eich bod yn cysylltu â’r Uned Llifogydd a Rheoli Perygl Arfordirol ar 01766 771000 cyn gwneud cais am ganiatâd. Rhaid i ffi o £50 fod ar gael gyda’ch cais.

Mae gennym 2 fis i benderfynu ar eich cais. Bydd y cyfnod yma ond yn dechrau pan fyddwn wedi derbyn eich ffurflen gais a’r holl ddogfennau cysylltiedig yn Swyddfa Dolgellau.


Dynodiad

Mae gan Gyngor Gwynedd bwerau caniataol i ddynodi strwythur neu nodwedd sy’n effeithio ar berygl llifogydd lleol. Bydd angen ein caniatâd i newid, tynnu neu roi strwythur arall yn lle strwythur neu nodwedd ddynodedig. Nid oes gennym unrhyw bŵer i wneud i rywun gadw strwythur neu nodwedd ddynodedig. Byddai strwythur neu nodwedd ddynodedig yn cael ei roi ar y gofrestr o nodweddion perygl llifogydd.