Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn rhoi’r hawl i chi gerdded ar lwybrau penodol ar unrhyw adeg.

 

Cliciwch ar y map i’w wneud yn fwy
Gall y rhain fod yn ffyrdd, lwybrau neu draciau mewn ardaloedd trefol neu wledig, ac weithiau mae nhw ar eiddo preifat. Mae rhai yn agored i geffylau, beiciau a cherbydau. 
Gweld mwy o fanylion.

Cliciwch ar y map i weld rhwydwaith Hawliau Tramwy Gwynedd. 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cofrestr hawliau tramwy cyhoeddus 

Gweld cofrestr ar-lein hawliau tramwy cyhoeddus Gwynedd

Os ydych yn gwybod am broblem ar dramwy cyhoeddus, fel rhywbeth yn atal llwybr, arwyddion anghywir neu lwybr sydd angen ei gynnal a chadw, cysylltwch â ni.

Mae angen i ymwelwyr barchu a chymryd gofal ar dir preifat, a chofio dilyn Cod Cefn Gwlad. Mae gan y perchennog ddisgwyliadau, hefyd:

Mae’r rhain yn gofnod cyfreithiol o hawliau tramwy cyhoeddus Gwynedd. Mae copïau ar gael i’w gweld yn Swyddfeydd y Cyngor yng Nghaernarfon a Dolgellau. Rydym yn awgrymu'n gryf eich bod yn gwneud apwyntiad o flaen llaw i sicrhau fod y swyddog perthnasol ar gael i'ch helpu. Cysylltwch â ni.

Y peth cyntaf i’w wneud yw cysylltu â ni

Mae’n bosib gwneud cais o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981 i ychwanegu llwybr i’r Map Statudol. Os yw pawb yn cytuno, mae pethau’n syml. Ond, fel arfer, fe fydd rhywun yn anghytuno, a gall y mater gymlethu. Os na fydd yn bosib datrys y broblem, bydd y mater yn cael ei gyfeirio i Lywodraeth Cymru. Mae mwy o wybodaeth a ffurflenni cais i'w cael isod:

O dan Ddeddf Priffyrdd 1980, gall y Cyngor ailgyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus. Rhaid i’r gwyriad fod er budd y perchennog, deilydd neu brydlesai y tir mae’r hawl tramwy yn ei groesi  neu er budd y cyhoedd a rhaid i’r llwybr newydd beidio bod yn sylweddol llai cyfleus i’r cyhoedd. 

Mae gan y Cyngor y pŵer o dan Ddeddf Cynllunio Tref a Gwlad 1990 i ailgyfeirio hawl tramwy cyhoeddus pan fo angen er mwyn caniatáu hawl cynllunio i ddatblygiad sy’n cael ei effeithio ganddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y taflenni isod, neu drwy gysylltu â ni: 

Os fedrwch chi brofi nad oes angen hawl tramwy a bod yr amgylchiadau yn gyfleus i'w gau, gallwch ei ddiddym. Mae hyn yn anodd iawn i’w brofi ac nid yw’n digwydd yn aml. Os ydych yn ystyried cyflwyno cais, y cam cyntaf yw cysylltu â ni.

Gall defnydd rheolaidd o lwybr gan y cyhoedd olygu y bydd y llwybr yn cael ei gydnabod fel hawl tramwy cyhoeddus swyddogol. I atal hyn, mae angen dangos nad oeddech, ar y pryd, yn bwriadu i’r llwybr ddod yn hawl tramwy cyhoeddus. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y nodiadau canllaw a’r templedi: Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth

Prif bwrpas y Fforwm Mynediad Lleol yw cynghori Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Gwynedd ar sut i hwyluso mynediad i gefn gwlad. Mae disgwyl i’r fforwm wella cydweithrediad rhwng grwpiau sydd â diddordeb a chreu a chynnal cysylltiadau gyda Fforymau Mynediad Lleol ardaloedd eraill. Mwy o wybodaeth am y Fforwm Mynediad Lleol  

 

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth am hawliau tramwy cyhoeddus yng Ngwynedd, cysylltwch â ni: