Lluoedd arfog - hawliau a chymorth

Mae'r dudalen hon yn berthnasol i aelodau o'r Lluoedd Arfog, cyn-aelodau o'r lluoedd arfog, eu teuluoedd, ynghyd â gweddwon a phlant unrhyw un a laddwyd wrth wasanaethu dros y wlad.

Bathodynnau Glas:  Hawl  i bersonél a chyn-filwyr y Lluoedd Arfog a anafwyd yn ddifrifol i gael Bathodynnau Glas

Teithio am ddim ar fws:  Personél a chyn-filwyr y Lluoedd Arfog a anafwyd yn ddifrifol yn cael teithio am ddim  ar fws.


Blind Veterans UK:  Cymorth ar gyfer Cyn-filwyr ddall a phobl â nam ar eu golwg. Cymorth wrth gael mynediad i fudd-daliadau a darparu cymorth ariannol.

MIND:  Darparu gwybodaeth a gwasanaeth lleol. Wedi eu lleoli yng Nghaernarfon.

Veterans Wales (GIG):  Prif nod Cyn-filwyr GIG Cymru yw gwella iechyd meddwl a lles cyn-filwyr. Mae'n gweithio i sefydlu gwasanaethau cynaliadwy, hygyrch ac effeithiol sy'n cwrdd ag anghenion cyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru.


Combat stress:  Cymorth arbenigol tymor hir am ddim a chymorth ar gyfer cyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Llwybr Tai Cenedlaethol i Gyn Aelodau o’r Lluoedd Arfog 

 

Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl  


Osgoi digartrefedd:  Cyngor ar ddigartrefedd


The Joint Service Housing Advice Office (JSHAO):  Cymorth ar gyfer prynu tŷ

MoneyForce: Darparu nifer o gynlluniau tai i aelodau a chyn aelodau'r Lluoedd Arfog

SSAfA:  Darparu gwasanaeth ar holl faterion tai

Lleng Brydeinig Frenhinol:  A ydych yn gymwys ar gyfer budd-daliadau tai a gostyngiad yn y treth?

Gostyngiad ar dreth ail gartref

Help gyda ffioedd ysgol a chostau gofal plant:  Os ydych ar hyn o bryd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog, efallai y byddwch yn medru hawlio lwfans i helpu i dalu am ffioedd ysgol breswyl eich plentyn.

Cefnogi Plant Gwasanaeth mewn Ysgolion yng Nghymru 

Cymorth menter ‘Be the Boss’ i gyn-bersonél y Lluoedd Arfog:  Mae 'civvysteet' yn anelu at ddarparu cefnogaeth a mentora ar gyfer unigolion o'r Lluoedd Arfog sy'n gadael, neu ar fin gadael, ac yn chwilio am gyfleoedd cyflogaeth a chyfle i ddefnyddio'r sgiliau a ddysgwyd wrth wasanaethu.

Lleng Brydeinig Frenhinol Swyddi:  Mae 'SORTED!' yn canolbwyntio ar unigolion sy'n chwilio am waith,gan sicrhau bod yr wybodaeth, cyngor ac arweiniad cywir ar gael er mwyn gwneud y daith i gyflogaeth yn haws ac yn fwy effeithiol.

Lleng Brydeinig Frenhinol- Seibiant Glan y Mór a gwyliau teuluol:  Mae'r Lleng yn darparu teuluoedd sy'n gwasanaethu a chyn-bersonél y Gwasanaeth y cyfle i gymryd seibiant a symud i ffwrdd oddi wrth bwysau a straen bywyd bob dydd.

Pleidleisio:  I gofrestru i bleidleisio

Cymorth gan CAB (Citizen’s Advive Bureau):  Cymorth cyffredinol

 

MOD - hawlio cymorth ariannol:  Pob math o gymorth ynglyn ag addysg, arian, iechyd a thai. 


Tocyn trên:  Mae pobl yn y  lluoedd arfog yn gallu  prynu'r Cerdyn Rheilffordd Lluoedd. Mae hyn yn rhoi 1/3 oddi ar docynnau trên ledled y DU am flwyddyn.


Nofio am ddim: Mynediad am ddim i byllau nofio