Eich gwybodaeth

Rydym yn dibynnu ar dderbyn a rhannu gwybodaeth er mwyn gallu edrych ar eich anghenion gofal cymdeithasol a thrafod y gwasanaethau sydd ar gael i gwrdd â nhw.

Mae darparu’r wybodaeth fwyaf sylfaenol yn fater sensitif i rai pobl. Mae gennych hawl i ddisgwyl i unrhyw wybodaeth rydych yn ei darparu gael ei thrin yn gyfrinachol. Mae’r un fath yn wir am wybodaeth amdanoch a roddwyd gan rywun arall, fel perthynas neu feddyg.

 

Pa wybodaeth rydych yn ei dal am bobl sy'n derbyn gwasanaeth?

Mae hyn yn dibynnu ar natur y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu, ond gall gynnwys manylion fel:

  • dyddiad geni, enw, cyfeiriad
  • amgylchiadau personol, iechyd, ffordd o fyw, sefyllfa ariannol
  • cofnod o gyfarfodydd gyda chi ac eraill, penderfyniadau a wnaed a gwasanaethau a ddarparwyd.

Cedwir y cofnodion ar bapur neu ar gyfrifiadur. Cânt eu trin yn gyfrinachol a’u dal yn ddiogel bob amser. Dim ond pobl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch gofal all eu gweld – does neb arall yn cael eu gweld heb i chi roi caniatâd. Cedwir rhai cofnodion am lawer o flynyddoedd; caiff eraill eu dinistrio ar ôl cyfnod o amser.

 

Alla i weld y wybodaeth rydych yn ei dal amdanaf?

Dan Ddeddf Gwarchod Data 1998 mae gennych hawl i weld pa wybodaeth bersonol rydym yn ei dal amdanoch. Mae rhai amgylchiadau pan na allwn adael i chi weld y wybodaeth neu ran ohoni, er enghraifft:

  • os yw’n sôn am rywun arall
  • os gallai rhoi’r wybodaeth i chi eich niweidio
  • os oes angen y wybodaeth er mwyn datrys neu rwystro trosedd.

Os na allwn roi mynediad i chi at wybodaeth, byddwn fel arfer yn dweud wrthych pam.

 

Sut ydw i’n cael y wybodaeth?

Cysylltwch â ni gyda’r manylion isod er mwyn gofyn am ffurflen drwy e-bost neu’r post.

Er mwyn gwneud cais, bydd yn rhaid i chi:

  • lenwi’r ffurflen gais
  • talu ffi o £10
  • darparu prawf o’ch hunaniaeth ac unrhyw wybodaeth angenrheidiol arall.

Unwaith y byddwn wedi derbyn hyn, byddwn yn prosesu eich cais o fewn 40 diwrnod calendr.

 

Cysylltu â ni

Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:

  • 01766 771000
  • gcgc@gwynedd.llyw.cymru
  • Swyddog Gwybodaeth, Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH

Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd:

  • 01766 771000
  • gcgc@gwynedd.llyw.cymru
  • Swyddog Gofal Cwsmer, Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH