Parc Gwledig Padarn

Dewch am dro Barc Padarn i fwynhau diwrnod allan i'r teulu cyfan. Mae'r parc yn 800 acer gyda'r golygfeydd mwyaf trawiadol yng Ngogledd Cymru. Mwynhewch olygfeydd ar draws Llyn Padarn o Gastell Dolbadarn ac Eryri yn ei holl ogoniant.


Oriau agor

Mae'r parc ar agor yn ddyddiol drwy'r flwyddyn.

Ffôn: (01286) 870892

E-bostparcgwledigpadarn@gwynedd.llyw.cymru

Gwefan: Ymweld ac Eryri


Lleoliad

Cliciwch ar y map i’w wneud yn fwy

Ysbyty'r Chwarel, Llanberis, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4TY 

 


Atyniadau

  • Ysbyty'r Chwarel - amgueddfa sy'n adlewyrchu bywyd yn yr ysbyty yn y 19 Ganrif 
  • Rheilffordd Llyn Padarn
  • Amgueddfa Lechi Genedlaethol
  • Cwrs rhaffau ac ysgolion - cwrs antur i blant ac oedolion
  • Canolfan chwaraeon dŵr Padarn
  • Cwch bleser 'Seren yr Wyddfa'
  • Canolfan Deifio Vivian Cychod Padarn
  • Llwybrau Cerdded (taith 8km o amgylch y llyn a llwybrau eraill llai)


Siopau / gweithdai

  • Crochenwaith Padarn
  • Crefft Elidir
  • Fframia
  • Odyn Copr


Parcio

Cyfleusterau parcio helaeth ar y safle.