Parc Glynllifon

Dewch am dro i erddi hanesyddol a chanolfan grefftau Parc Glynllifon i fwynhau diwrnod allan i’r teulu cyfan.

I weld lluniau o’r Parc a’r newyddion diweddaraf ewch i dudalen Facebook parc Glynllifon 


Y gerddi a theithiau cerdded trwy'r goedwig

Cliciwch ar y map i’w wneud yn fwy

 

Oriau agor

  • Tymor yr Haf (1 Ebrill – 30 Medi) Ar agor yn ddyddiol rhwng 10:00 a 17:00, 11:00 ar ddydd Sul
  • Tymor y Gaeaf (1 Hydref – 31 Mawrth) Ar agor ddydd Iau tan ddydd Sadwrn 10:00 a 17:00, 11:00 ar ddydd Sul

*mae gan aelodau Ffrindiau Parc Glynllifon fynediad pob dydd trwy gydol y flwyddyn


Pris

Oedolion £4; Plant £2; Pensiynwyr £3; Teulu am y dydd £10;

Oedolyn am flwyddyn £25; Plentyn am flwyddyn £15; Teulu (2+2) am flwyddyn £40.

Digon o lefydd parcio am ddim.

 

Ffrindiau Parc Glynllifon

Dyma gerdyn aelodaeth newydd sbon. O ymaelodi â’r parc byddwch yn ein helpu i gynnal tiroedd hanesyddol Glynllifon.

Mae manteision aelodaeth yn cynnwys:

  • mynediad i'r parc gwledig drwy gydol y flwyddyn
  • cynigion arbennig yng Nghaffi’r Gath Ddu
  • cynigion arbennig a gostyngiadau yn siop Adra
  • cylchlythyr chwarterol drwy e-bost a llawer mwy – byddwch ymhlith y cyntaf i gael gwybod am newyddion a digwyddiadau Parc Glynllifon.

Dyma anrheg perffaith ar gyfer pob math o achlysuron arbennig - pen-blwydd, y Nadolig, Sul y Mamau, ymddeoliad – mae’n anrheg a fydd yn para gydol y flwyddyn.

  • Aelodaeth Oedolyn - £25
  • Aelodaeth Plentyn - £15
  • Aelodaeth teulu (2+2) - £40

 

Lleoliad

Ffordd Clynnog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DY.
Mae’r Parc wedi ei leoli ar yr A499 rhwng Caernarfon a Phwllheli.


Siop ac Oriel Adra

Anrhegion a nwyddau Cymreig chwaethus a chyfoes.

Oriau agor yr Haf (Ebrill – Medi):
Ar agor pob dydd. 10:00 - 17:00 dydd Llun tan ddydd Sadwrn. 11:00 – 16:00 dydd Sul.

Oriau agor y Gaeaf (Hydref – Mawrth):
Ar agor bedwar diwrnod yr wythnos. 10:00 – 17:00 dydd Iau tan ddydd Sadwrn. 11:00 – 16:00 dydd Sul.

Manylion cyswllt Adra: 01286 831353


Caffi’r Gath Ddu

Amrywiaeth eang o fwydydd cartref. Mae’r caffi, yn gyffredinol, ar agor trwy gydol y flwyddyn.

Manylion cyswllt y caffi: 01286 832691


Cŵn

Mae croeso i gŵn cyn belled â’u bod yn cael eu cadw ar dennyn a’ch bod yn glanhau ar eu holau.


Mynediad

Mae Parc Glynllifon yn addas i bobl o bob oed a gallu, gyda:

  • chylchdro addas i goetsus a chadeiriau olwyn
  • cyfleusterau ar gyfer yr anabl

Rydym yn argymell gwisgo esgidiau addas i ymweld â’r Parc.


Gweithgareddau i grwpiau

Rydym yn croesawu nifer o grwpiau i’r Parc bob blwyddyn, gan gynnwys ysgolion, colegau, clybiau a chymdeithasau amrywiol.

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Parc ar 01766 771000 neu parcglynllifon@gwynedd.gov.uk

Am y newyddion diweddaraf ewch i http://www.facebook.com/parcglynllifon