Lonydd Glas

Chwilio am le diogel, di-draffig i gerdded neu feicio? Eisiau awyr iach neu ddianc o sŵn y byd o'ch cwmpas? Pam nad ewch am dro ar hyd eich Lonydd Glas?

Erbyn heddiw yng Ngwynedd ceir dros 50.5 cilomedr (31½ milltir) o lwybrau pwrpasol ar gyfer cerdded a beicio, lle cewch ymlacio ymysg natur ac anghofio am broblemau'r byd tu allan. Mae Cyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cydweithio i ddarparu'r daflen hon, ble cewch wybodaeth am y pump lôn las sydd i'w cael yng Ngwynedd.

Teithiau unigryw yw'r rhain a sefydlwyd ar hyd hen reilffyrdd sydd erbyn heddiw yn creu rhwydwaith eang. Lleolir y rhwydwaith yma yng Ngwynedd, sydd yn ardal unigryw o ran ei thirlun, ei diwylliant a'i phobl, ac yn gryf yn ei Chymraeg. 

Yn ogystal â cheisio gwella eich mwynhad o'r Lonydd Glas, rydym hefyd yn ystyried bod gwarchod y bywyd gwyllt, sydd i'w ganfod ar naill ochr i'r llwybrau, yn agwedd bwysig o'n gwaith rheoli. Mae'r llwybrau wedi eu harwyddo ac yn hawdd i'w defnyddio, gyda'r rhan fwyaf o wasanaethau megis ffôn a siopau i'w canfod bron ym mhob pentref. Pa ffordd well i ymweld â gwyrddni cefn gwlad Gwynedd nac i grwydro'r Lonydd Glas?

 Mwy o wybodaeth am seiclo yn Eryri

Byddai rhai yn dweud mai Lôn Eifion yw'r daith fwyaf adnabyddus o'r bump ar y rhwydwaith.  Yn sicr, mae'n ddigon hawdd gweld pam fod y llwybr yn boblogaidd, gyda'i lecynnau tawel cysgodol, a'i olygfeydd godidog.  Pam na ewch i weld y panorama o'ch cwmpas o Ben Llŷn, Bae Caernarfon, Ynys Môn ac Eryri?


Dilynwch Lôn Eifion trwy goridorau gwyrdd o goed a phlanhigion cynhenid sy'n ymestyn am 20 cilomedr (12 milltir) rhwng tref brysur Caernarfon a phentref gwledig Bryncir i'r de.  Mae'r llwybr yn weddol wastad, gyda chyfuniad o wyneb tarmac (Llanwnda-Graianog) a llwch cywasgedig.


Mae Lôn Eifion yn rhan o Lôn Las Cymru, taith rhif 8 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol

Map Lôn Eifion

Wrth ymweld â Lôn Las Menai, cewch fwynhau golygfeydd o Ynys Môn, yr ynys werdd y tu draw i ddyfroedd bywiog Afon Menai.  Ceir yma 6.5 cilomedr (4 milltir) o lwybr gwastad rhwng Caernarfon a'r Felinheli, a agorwyd yng ngwanwyn 1995.


Mae'r llwybr llwch cywasgedig yn arwain o dref gaerog Caernarfon gyda'i gastell hynafol, drwy dir amaethyddol ar hyd arfordir gosgeiddig y Fenai i gyrion y Felinheli.  Drwy'r pentref, mae'r daith yn dilyn Ffordd Glan y Môr hyd at y Stryd Fawr, cyn ymuno yn ôl â'r llwybr ger y cae chwarae.  Mae Lôn Las Menai yn rhan o Lôn Las Cymru, taith rhif 8 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Map Lôn Las Menai

Dyffryn yr Afon Cegin yw un o fannau tawelaf yr ardal, lle'n aml nad oes dim i'w glywed ond sŵn yr afon.  Gelwir y rhan hon o'r llwybr sy'n rhedeg drwy'r dyffryn cysgodol rhwng Porth Penrhyn a phentref Glasinfryn yn Lôn Bach.  Adeiladwyd Lôn Bach yn yr 1980au ar gyn reilffordd gul Stâd y Penrhyn, a sefydlwyd i gludo llechi o chwarel Bethesda i'w hallforio o Borth Penrhyn. 

Map Lôn Las Ogwen


Ymestyn y llwybr i Fethesda - 'Tynal Tywyll'


Ar hyn o bryd, mae Lôn Las Ogwen yn ymestyn o Borth Penrhyn ar gyrion dinas Bangor hyd at Tregarth. Mae gwaith ar y gweill i ymestyn y llwybr i Fethesda, sy'n rhan o brosiect strategol Cymunedau a Natur - prosiect gwerth £14.5 miliwn wedi’i arwain a’i reoli gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) ac wedi’i ariannu’n rhannol gan y Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru.

Y gobaith yw y bydd y llwybr newydd yn annog mwy o bobl i adael eu ceir adref, ac i gerdded neu feicio i’w gwaith, ysgol, i’r siopau neu i ymweld â ffrindiau.

Mae lluniau o'r datblygiad i'w gweld ar gyfrif Facebook Cyngor Gwynedd

Bellach mae'r gwaith yn agosáu at ei gwblhau, ac yn ddiweddar mae trigolion a chynrychiolwyr lleol wedi cael golwg cychwynnol ar adran 800 medr o Lôn Las Ogwen fydd yn agor i'r cyhoedd yn yr wythnosau nesaf, ac wedi rhoi'r enw 'Tynal Tywyll' arni, gan ddefnyddio'r enw y mae'r llwybr wedi ei fagu gan y bobl leol.

 

Yn dilyn gorffen y gwaith, bydd yn bosib teithio ar hyd yr hen dwnnel rheilffordd rhwng Tregarth a Bethesda heb orfod dilyn y brif ffordd.

 

O bentref poblogaidd Llanberis gallwch ddilyn llwybr troed/beic Lôn Las Peris am 1.5 cilomedr (1 milltir) ar hyd glan cysgodol Llyn Padarn.  Ar ôl y twnnel, ac ar ben y daith, mae'r llwybr yn cysylltu â'r rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus lleol, o ble gallwch feicio neu gerdded heibio pentref Brynrefail, Cwm y Glo a Llanrug, ac os ydych yn dymuno, i lawr dyffryn yr Afon Seiont i gyfeiriad tref brysur Caernarfon. 

Neu, beth am loetran ychydig a chymryd yr amser i werthfawrogi cefn gwlad hanesyddol ardal y llechen trwy ddilyn ffyrdd gwledig ac ymweld â Deiniolen, Dinorwig neu Penisarwaun, neu feicio i fyny'r dyffryn godidog i gyfeiriad Nant Peris?

Map Lôn Las Peris

 

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni