Gwarchodfeydd Natur Lleol

Mae gwarchodfeydd natur Gwynedd yn ymestyn dros 1700 hectar o dir, ac mae cynefinoedd a rhywogaethau pwysig yno. Cânt eu rheoli mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, RSPB Cymru, nifer o gynghorau tref a chymuned a grwpiau cymunedol eraill. 

Gweld Map o'r Gwarchodfeydd Natur Lleol

 

(traeth Abergwyngregyn - dilynwch yr arwyddion brown o gyffordd 13 yr A55)

Mae yma guddfan gwylio adar lle gallwch wylio heidiau o ylfinir, chwiwell, a hwyaid. Efallai y gallech gael cip ar las y dorlan, yr iâr ddŵr neu'r dyfrgi wrth iddynt fwydo yn y pyllau dŵr croyw.

(ymestyn 9.5km o Fangor i Lanfairfechan)

Amrediad o gynefinoedd blaendraeth, mwd a thywod rhynglanw, dros 2,500 hectar o'r traeth ar lanw isel. Sawl dynodiad fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Gwarchod Arbennig, ac Ardal Cadwraeth Arbennig. Cynefin pwysig i wyachod mawr copog, piod môr, hwyaid brongoch a hwyaid llygad aur.

(dilynwch y llwybr arfordir am filltir i'r gorllewin o'r Prom yn Llanfairfechan, cyffordd 15 yr A55)

Cymysgedd o gynefinedd tir gwlyb - coedlannau collddail, tir pori, pyllau dŵr croyw a gwelyau hesg. Tair cuddfan adar lle gwelir hwyaid a rhydwyr fel chwiwell, y pibydd coesgoch a'r gornchwiglen.

(i'r de-ddwyrain o Gaernarfon - dilynwch yr arwyddion brown o'r A487 i'r de o Gaernarfon, neu oddi ar yr A499 ger Llandwrog)

Bae rhynglanwol cysgodol ar lannau'r Fenai - ar lanw isel, gwelir 250 hectar o fwd a thywod sy'n gynefin bwydo pwysig i rywogaethau adar cynhenid a mudol fel , hwyaid yr eithin, piod môr, gylfinirod a chornchwiglod, pibydd y mawn, pibydd coesgoch, ambell bibydd coeswyrdd a chwtiaid aur, a heidiau mawr o dros 5,000 chwiwell.

(SH 527 585 - ar ochr yr A4085 i'r de o bentref Waunfawr)

Coedlan gymysg sy'n llawn bywyd gwyllt cuddiedig mewn safle cysgodol ar lethrau isel Moel Smytho. Gallwch gerdded ymysg amrywiaeth o adar, anifeiliaid a phlanhigion cynhenid - rhai ohonynt yn brin, fel y gwybedog brith a ddaw o ogledd Affrica i nythu. Mae llwybr cylch gwastad yn rhan isa'r warchodfa ger y maes parcio a'r safle picnic. Mae cylchdaith 1km o amgylch gweddill y goedlan, ac mae'n eithaf serth a gwlyb dan draed mewn mannau.

(mynediad ger swyddfeydd Cyngor Gwynedd ar Ffordd y Cob (SH376 345), neu o'r maes parcio ar Lôn Cob Bach (SH371 345))

Mae'r warchodfa yng nghanol tref farchnad hanesyddol Pwllheli. Ffurfiwyd y tirlun presennol drwy sychu tir aber afon Rhyd-hir ar ôl adeiladu'r Cob yn y ddeunawfed ganrif. Lledaenodd y dref dros y rhan fwyaf o'r tir amaethyddol da, gan adael tir pori gwlyb a morfa heli i'r de o Lôn Cob Bach. I'r gogledd o'r lôn, mae ardal o fwd rhynglanwol a gwelyau hesg - cynefin pwysig i nifer o rywogaethau fel glas y dorlan a'r dyfrgi.

(i'r de-orllewin o bentref Borth y Gest)

Creigiau arfordirol, traethau tywod a choedlan gymysg. Safle poblogaidd gan deuluoedd yn yr haf. Gellir gweld nifer o adar yn yr aber - y gylfinir, pibydd coesgoch a'r wyach yddfddu yn y gaeaf, a môr-wenoliaid pigddu a rhai cyffredin yn yr haf. Yn yr hinsawdd fwyn, ceir llystyfiant llorol a choed yn cynnwys eithin a grug, drain duon, cyll ac afalau surion, bedw a derw. Mae nifer o lwybrau yn y warchodfa, gan gynnwys y llwybr arfordir. Gallwch fynd i mewn ger yr eglwys (SH 565 373), i'r de o'r maes parcio ger yr harbwr.

(gallwch gyrraedd ar hyd llwybr cyhoeddus wrth harbwr Borth y Gest (SH565 377), neu oddi ar Ffordd Morfa Bychan (SH560 378))

Coedlan dderw a thir porfa blodau gwyllt ar fryn y tu cefn i harbwr cysgodol Borth y Gest. Mae rhwydwaith llwybrau drwy'r goedlan ac i ben y bryn lle mae golygfeydd da o aber afonydd Glaslyn a Dwyryd, cestyll Harlech a Chricieth, a Phenrhyn Llŷn. Mae cwrs cyfeiriannu yma i blant - mae'r daflen ar gael o siop y pentref. Fis Mai, gallech weld y gwybedog brith yn nythu yma, neu glywed cnocell y coed yn tyllu.