Coedlannau

Mae’r Cyngor yn rheoli rhwydwaith o goedlannau Gwynedd sy’n agored i’r cyhoedd drwy'r flwyddyn.

Mae’r brif fynedfa i Goed Doctor ar y chwith wrth gerdded i lawr stryd fawr Llanberis i gyfeiriad Coed y Glyn. Nid yw’n addas i gadeiriau olwyn.

Mae Coed Doctor yn goedlan unigryw a thawel sy’n cynnwys coedlan dderw, pyllau ac ardaloedd gwlyb ac ardal o dir agored. Mae’n llawn hanes a bywyd gwyllt ac yn lle braf i gerdded ac ymlacio. Gallwch weld olion mwyngloddio cynnar a modern yn ogystal ag adar amrywiol, mamaliaid prin fel ystlumod a moch daear, a llyffantod a brithyll yn Llyn Tomos. 

O stryd fawr Bethesda, trowch heibio i’r hen fecws ar ben Ogwen Terrace a hen gapel Bethesda (GR 623 667). Neu gallwch gychwyn o ben deheuol y llwybr cyhoeddus sydd wrth ymyl bythynnod Grisiau Cochion (GR 620 662).

Coedlan odidog o goed derw dafliad carreg o ganol Bethesda yw Bryn Meurig. Mae’r goedlan gyfan dan Orchymyn Gwarchod Coed – mae rhai o’r coed yn hynafol. Mae nifer o anifeiliaid a phlanhigion diddorol i’w gweld yno – dyfrgwn, tylluan frech a’r gnocell fraith, telor y cnau a’r frithogen ymhlith eraill. 

Gallwch gyrraedd y goedlan o bentref Tremadog (SH 563 400) neu o gilfan ar ochr yr A487 (SH 565 397). Mae’r rhan fwyaf o’r rhwydwaith llwybrau’n wastad.

Mae’r goedlan hon yn gorwedd ar dir oedd unwaith yn rhan o aber yr Afon Glaslyn. Draeniwyd y tir gan William Maddocks rhwng 1800 a 1806 wrth iddo adeiladu’r Cob ar draws y Traeth Mawr ac adennill dros 5,000 erw o dir o'r môr. Sefydlodd Maddocks y feithrinfa goed i gyflenwi pren ar gyfer adeiladu tai a llongau, a bu’n weithredol tan y 1920au. Mae olion strwythur yr hen feithrinfa i’w gweld yn y goedlan 10 hectar o hyd – ffosydd draenio a rhesi o goed cymysg. 

Mae Wern Mynach yng nghanol tref Abermaw, ger y cae pêl-droed.

Arferai mynachod Sistersaidd o Abaty Cymer, Llanelltyd ddod â’u hanifeilaid i bori ar forfa heli’r wern dros y gaeaf. Mae sawl lle yn Abermaw wedi’u henwi ar ôl y mynaich. Ar ôl adeiladu'r rheilffordd yn 1886, ffurfiodd llynnoedd bychain yn Wern Mynach a rhoddwyd y tir i drigolion Abermaw ar gyfer hamddena. Adeiladwyd cae pêl-droed yno a throi gweddill y tir yn safle tirlenwi. Ers 2005 crewyd safle glas trefol yno, a phlannwyd cannoedd o goed derw, afalau, criafol, banadl a helyg a blodau gwyllt sy’n denu pryfed, adar ac anifeiliaid.