Seremoni ailddatgan addunedau

Mae seremoni ailddatgan addunedau yn gyfle i gyplau sydd wedi priodi neu wedi ymrwymo mewn partneriaeth sifil i ailddatgan eu addunedau. Nid oes gan y seremonïau hyn statws cyfreithiol. 
Bydd cofrestrydd yn cynnal y seremoni ar eich cyfer a byddwch yn derbyn tystysgrif goffäol. 


Mae'n bosib cynnwys eich dewis o ddarlleniadau a cherddoriaeth yn y seremoni. Ond, nid yw'n bosib cynnwys darlleniadau na cherddoriaeth grefyddol.

 

Gweld ffioedd 

Ffoniwch 01766 771000

Bydd angen talu ffi na all gael ei ad-dalu er mwyn cadarnhau'r dyddiad a'r lleoliad gyda'r gwasanaeth cofrestru. Gallwch dalu gweddill yr arian unai i'r cofrestrydd pan fyddwch yn cwrdd o flaen llaw i drafod y seremoni mewn manylder, neu ar ddiwrnod y seremoni. Gallwch dalu gydag arian parod, cerdyn debyd / credyd, archeb bost neu siec yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd'. 

 

Mwy...

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01766 771000.