Tystysgrif priodas/partneriaeth sifil

Mae'n bosib prynu copi o dystysgrif priodas ar gyfer priodasau sydd wedi eu cynnal yng Ngwynedd ers 1837 a thystysgrifau partneriaethau sifil ers y flwyddyn 1994. Os ydych yn chwilio am dystysgrif hŷn na 1837 cysylltwch ag un o archifdai Gwynedd

Os yw priodas wedi'i chynnal mewn eglwys, neu mewn capel lle mae swyddogion lleol yn gweithredu ar ran y cofrestrydd, ni fydd Gwasanaeth Cofrestru Gwynedd yn derbyn copi o’r dystysgrif nes bydd y gofrestr yn y capel/eglwys wedi ei chau. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01766 771000.

 

  • Faint mae tystysgrif priodas/partneriaeth sifil yn ei gostio? £11 yn cynnwys postio dosbarth cyntaf.
  • Sut mae gwneud cais am gopi?
  • Sut a phryd fydda i yn derbyn y dystysgrif? 
    Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais a'ch taliad byddwn yn ymdrechu i anfon y dystysgrif i chi drwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith.  

Os ydych angen y dystysgrif ar frys bydd yn bosib gwneud cais brys. 

Os byddwn yn derbyn y cais cyn 10.30am (Llun i Iau) bydd yr opsiwn yna i chi unai gasglu y tystysgrif o Siop Gwynedd yng Nghaernarfon (ar ol 3 o'r gloch yr un diwrnod), neu cael y tysysgrif wedi ei bostio ‘1st class – Signed For’ ar yr un diwrnod.

Cost am gais brys yw £35 am bob copi yn cynnwys postio dosbarth cyntaf.

  • Sut mae gwneud cais brys am dystysgrif? Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd cyn 10:30am (Llun i Iau).

 

 

Mwy o wybodaeth

Ffoniwch: 01766 771000