Tystysgrif geni

Mae'n bosib prynu copi o dystysgrif geni ar gyfer unrhyw un sydd wedi eu geni yng Ngwynedd ers 1837. Os ydych yn chwilio am wybodaeth cyn 1837, cysylltwch ag un o archifdai Gwynedd.

  • Pa wybodaeth sydd arni?
    Mae’r dystysgrif geni safonol yn nodi enw, rhyw, dyddiad geni, ardal yr enedigaeth, cyfeiriad geni'r plentyn a manylion y rhieni.
  • Ar gyfer beth fydd angen tystysgrif geni safonol?
    Byddwch angen tystysgrif geni safonol er mwyn gwneud cais am nifer o brosesau swyddogol, gan gynnwys gwneud cais am basbort, pensiwn neu visa. 
  • Cost:
    £11.00 am bob copi yn cynnwys postio dosbarth cyntaf.
  • Sut mae gwneud cais am gopi? 
    • Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd 
    • Drwy'r post: Lawrlwythwch y ffurflen hon: Prynu copi o dystysgrif geni safonol a'i hanfon wedi ei chwblhau gyda siec/archeb bost yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd' i: Cofrestryddion, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
  • Sut a phryd fydda i yn derbyn y dystysgrif?
    Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais a'ch taliad byddwn yn ymdrechu i anfon y dystysgrif i chi drwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith. 

  • Pa wybodaeth sydd arni? 
    Enw'r plentyn, rhyw, dyddiad geni ac ardal yr enedigaeth yn unig. 
  • Ar gyfer beth fydd angen tystysgrif geni fer? 
    Bydd yn ddigonol er mwyn hawlio budd-dal plant ond bydd nifer o brosesau swyddogol eraill yn gofyn am gopi o dystysgrif llawn.
  • Cost:
    £11.00 am bob copi yn cynnwys postio dosbarth cyntaf.
  • Sut mae gwneud cais am gopi?
    • Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd.
    • Drwy'r post: Lawrlwythwch y ffurflen hon: Prynu copi o dystysgrif geni fer a'i hanfon wedi ei chwblhau gyda siec/archeb bost yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd' i: Cofrestryddion, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH 
  • Sut a phryd fydda i yn derbyn y dystysgrif?
    Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais a'ch taliad byddwn yn ymdrechu i anfon y dystysgrif i chi drwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith.  

Os ydych angen y dystysgrif ar frys bydd yn bosib gwneud cais brys. 

Os byddwn yn derbyn y cais cyn 10.30am (Llun i Iau) bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i bostio y dystysgrif gyda post dosbarth cyntaf ar yr un diwrnod. Nid yw'n bosib casglu y dystysgrif o'r Swyddfa ar hyn o bryd.

Cost am gais brys yw £35 am bob copi yn cynnwys postio dosbarth cyntaf.

Ni fydd yn bosib casglu'r dystysgrif o'r Swyddfa. 

  • Sut mae gwneud cais brys am dystysgrif?
    • Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd cyn 10:30am (Llun i Iau)

Mae’r Cyngor yn dal copïau o dystysgrifau geni gwreiddiol (gyda manylion y rhieni gwaed) yn unig. Mae posib defnyddio’r dystysgrif hon ar gyfer ymchwil teulu.

I wneud cais am broses swyddogol (e.e. am basbort, pensiwn, visa) byddwch angen y dystysgrif mabwysiadu sydd yn cynnwys manylion y rhieni mabwysiedig. I brynu copi o'r tystysgrif mabwysiadu, ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 0300 123 1837.

 

Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01766 771000.