Symud corff i / o Gymru neu Loegr

 

Symud corff allan o Gymru neu Loegr

Er mwyn symud corff allan o Gymru neu Loegr byddwch angen caniatâd gan y Crwner. Gellir cysylltu â Swyddfa'r Crwner drwy ffonio 01286 672804.

Mae'r drefn hon yn weithredol ym mhob achos ble mae'r corff yn cael ei symud allan o Gymru neu Loegr, nid dim ond pan fo'r farwolaeth yn cael ei hadrodd i'r Crwner.

Bydd angen derbyn y caniatâd hwn gan y crwner o leiaf 4 diwrnod cyn symud y corff (er bod eithriadau'n bosib).

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa'r Crwner drwy ffonio 01286 672804 neu ewch i wefan Directgov (cyswllt allanol).

 

Symud corff i Gymru neu Loegr

Os yw marwolaeth wedi digwydd y tu allan i Gymru neu Loegr ac eich bod am gladdu'r corff yng Ngwynedd, cysylltwch â Gwasanaeth Gofrestru Cyngor Gwynedd ar 01766 771000.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000 neu ewch i wefan Directgov (cyswllt allanol).