Angladdau Iechyd Cyhoeddus

Mewn achlysur pan fo rhywun yn marw heb deulu neu ffrindiau ar gael i drefnu angladd, mae Cyngor Gwynedd yn derbyn cyfeiriad i wneud trefniadau angladd ar eu rhan. 

Mae Deddf Iechyd Cyhoeddi (Rheoli Afiechydon) 1984 rhan 46(1) yn dweud bod rhaid i'r Cyngor drefnu i amlosgi neu gladdu unrhyw unigolyn sydd wedi marw oddi fewn i Wynedd pan nad oes trefniadau addas wedi/yn cael eu gwneud.

  • trefnu amlosgi, oni bai fod yr unigolyn sydd wedi marw wedi nodi eu bod yn ffafrio cael eu claddu
  • trefnu gwasanaeth angladd syml gan barchu credoau'r unigolyn sydd wedi marw
  • gosod rhybudd yn y papur newydd

Os yw'r unigolyn wedi gadael unrhyw arian yn y banc/cymdeithas adeiladu, mewn polisi yswiriant neu bensiwn, bydd hwn yn cael ei ddefnyddio at gost yr angladd. Mae gan y Cyngor hefyd hawl adennill costau angladd drwy werthu eitemau personol yr unigolyn.

Pan mae gwerth yr asedau yn uwch na chostau’r angladd, ac nid oes biliau arall yn bodoli, mae unrhyw arian yn weddill yn cael ei gyfeirio i’r Grŵp Stadau oddi fewn i’r Adran Bona Vacantia (derbyniadau bychan) o Gyfreithwyr y Trysorlys yn unol â’r rheolau sydd wedi eu gosod gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Am fwy o wybodaeth ac i archwilio cofrestr Stadau Cyfreithwyr y Trysorlys, ymwelwch â Bona Vacantia

Gweld rhestr o angladdau iechyd cyhoeddus

Mae’r rhestr yma yn cynnwys dyddiad marw, oed, rhyw, cadarnhad o amlosgi neu gladdu, costau’r angladd ac os yw’r angladd wedi ei gyfeirio at Gyfreithiwr y Trysorlys. Nid yw’r rhestr yma yn cynnwys enw cyntaf, cyfenw, dyddiad geni na chyfeiriad olaf yr unigolyn. Mae’r wybodaeth yma yn cael ei ddal yn ôl er mwyn atal trosedd a thwyll. 

 

Mwy...

I drafod Angladdau Iechyd Cyhoeddus yng Ngwynedd, ffoniwch yr Adran Gwarchod y Cyhoedd ar 01766 771000.