Newid i dystysgrif geni

Newid cyfenw plentyn

Dim ond cywiro camsillafiad mewn cyfenw plentyn sy'n bosib ei wneud i dystysgrif geni wreiddiol.

Mae posib ailgofrestru plentyn pan: 

  • mae rhieni naturiol y plentyn yn priodi ar ôl i'r baban gael ei gofrestru
  • nad ydi manylion y tad naturiol heb eu nodi ar y dystysgrif wreiddiol oherwydd nad oedd yn bresennol yn y cofrestru

Yn yr achosion hyn, bydd yn bosib newid cyfenw’r plentyn i unai un y fam neu’r tad, neu gyfuniad o’r ddau - cyn belled â bod y 2 riant yn cytuno i’r newid.

Nid oes angen talu am ailgofrestru, ond bydd rhaid talu'r ffi arferol am unrhyw gopïau ychwanegol.

Am ragor o wybodaeth neu er mwyn trefnu i ailgofrestru, ffoniwch 01766 771000.

 

Newid enw cyntaf plentyn

Mae'n bosib newid enw cyntaf plentyn ar dystysgrif geni o fewn 12 mis i gofrestru genedigaeth baban, am ffi o £40.00.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01766 771000

 

Camgymeriad ar dystysgrif geni

Os ydych yn credu fod camgymeriad ar dystysgrif geni, cysylltwch â ni drwy ffonio 01766 771000.

 

Newid eich enw

Os am newid manylion ar y dystysgrif geni mewn amgylchiadau gwahanol i’r hyn sydd wedi ei nodi ar y dudalen hon, mae'n debygol y byddwch angen cyflwyno gweithred newid enw. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder (allanol, Saesneg).