Cofrestru genedigaeth

 

Gallwch gofrestru genedigaeth baban sydd wedi ei eni yng Ngwynedd yn unrhyw un o swyddfeydd cofrestru Gwynedd drwy wneud apwyntiad o flaen llaw. Bydd y cofrestru’n cymryd tua 30 munud.

Trefnu apwyntiad ar-lein 

Neu ffoniwch 01766 771000. 

Sicrhewch eich bod yn dod â’r canlynol gyda chi i’ch apwyntiad i wirio a llofnodi’r gofrestr: 

  • Beiro ysgrifennu du neu glas ar gyfer llofnodi
  • Prawf adnabod ar gyfer y ddau riant fel y gallwch wirio’r wybodaeth a gofnodir yn erbyn eich manylion

Cofiwch fod tudalen y gofrestr yn ddogfen gyfreithiol a’i bod yn amhosibl newid unrhyw wallau y sylwir arnynt ar ôl llofnodi heb gais cywiro ffurfiol. Bydd angen talu ffi ystyried o £75 neu £90 am bob cais am gywiriad a rhaid ei anfon i’n prif swyddfa ynghyd â thystiolaeth o’r wybodaeth gywir er mwyn i benderfyniad gael ei wneud. Gall gymryd misoedd i’w gymeradwyo, felly mae’n hanfodol eich bod yn gwirio bod yr holl wybodaeth ar y gofrestr yn gywir cyn llofnodi.  

 

Canslo apwyntiad: os na fyddwch yn gallu mynychu apwyntiad, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni. Ffoniwch 01766 771000. 

Os ydych yn byw yng Ngwynedd ond bod y baban wedi ei eni y tu allan i Wynedd, gallwch roi datganiad o’r enedigaeth yn unrhyw un o swyddfeydd cofrestru Gwynedd drwy wneud apwyntiad o flaen llaw. Bydd y swyddfa gofrestru yna’n anfon yr wybodaeth ymlaen i’r swyddfa gofrestru yn yr ardal ble cafodd y baban ei eni.

Trefnu apwyntiad ar-lein 

Neu ffoniwch 01766 771000. 

 

Canslo apwyntiad: os na fyddwch yn gallu mynychu apwyntiad, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni. Ffoniwch 01766 771000.

Mae hefyd yn bosib cofrestru’n uniongyrchol gyda’r swyddfa gofrestru yn yr ardal ble cafodd y baban ei eni. I ddod o hyd i’r rhanbarth cofrestru ewch ar Gov.uk.

  • dyddiad, man geni, rhyw, enw(au) cyntaf a chyfenw y baban 
  • enw(au) cyntaf a chyfenw'r fam (ac enw morwynol); dyddiad a man geni; cyfeiriad arferol; galwedigaeth (dewisol); nifer plant eraill, dyddiad priodas (os yn briod â thad y baban ar adeg yr enedigaeth)
  • ar gyfer cofnodi manylion y tad / ail riant, bydd y cofrestrydd angen yr enw cyntaf a'r cyfenw, dyddiad a man geni, galwedigaeth ar adeg yr enedigaeth (neu alwedigaeth flaenorol) 

Pan fyddwch yn cofrestru genedigaeth baban, cynigir i chi brynu tystysgrif fer neu lawn. Mae'r dystysgrif fer yn ddigonol er mwyn hawliau budd-dal plant, ond bydd nifer o brosesau swyddogol eraill yn gofyn am gopi o'r dystysgrif llawn. 

  • Cost Tystysgrif geni llawn: £11.00 am bob copi
  • Sut mae talu? Gallwch dalu yn ystod yr apwyntiad gydag arian parod, cerdyn debyd / credyd, siec neu archeb bost yn daladwy i ‘Cyngor Gwynedd’.

PWYSIG: Os yw'r baban wedi ei eni y tu allan i Wynedd a'ch bod yn rhoi datganiad statudol o'r enedigaeth, bydd rhaid talu gyda siec neu archeb bost yn daladwy i’r rhanbarth cofrestru ble cafodd y baban ei eni (nid i Gyngor Gwynedd). Gall y cofrestrydd eich cynghori ar y diwrnod.

Gallwch brynu copïau ychwanegol o’r dystysgrif geni ar unrhyw adeg. I weld prisiau copïau ychwanegol: prynu copi o dystysgrif geni.

 

Mwy o wybodaeth:

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01766 771000.