Sgam

Ystyr sgam yw cynlluniau i'ch twyllo chi o'ch arian. Gallent gyrraedd trwy'r post, dros alwad ffôn, neges destun, ebost neu gan rhywun sydd yn dod i eich cartref. Dyma rai o’r triciau a ddefnyddir: loteri ffug, seicig ffug, buddsoddiadau i'ch gwneud yn gyfoethog yn gyflym a meddyginiaethau gwyrthiol i'ch gwella.

Os hoffwch rhoi gwybod am dwyll cysylltwch â llinell gymorth Cyngor ar Bopeth

  • Ffôn - 0808 250 5050

 

Amau eich bod wedi bod yn rhan o sgam?

Os ydych yn meddwl eich bod yn rhan o sgam, neu yn meddwl fod rhywun wedi trio eich twyllo:-

  • Cysylltwch a'r Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i Ddefnyddwyr:
    Ffôn: 03454 04 05 05
    Gallent anfon manylion y sgam i Safonau Masnach.
  • Ffoniwch Ymgyrch Atal Twyll (Action Fraud)
    Ffôn: 0808 250 5050
    Gwefan:www.actionfraud.police.uk/contact-us
  • Rhybuddiwch rywun - addysgwch ffrind, cymydog neu berthynas ynglŷn â pheryglon sgamiau.

 

Cyngor ddefnyddiol

Mwy na thebyg ei fod yn sgam os:

  • Yw'r alwad, llythyr, e-bost neu neges testun yn annisgwyl
  • Nid ydych wedi clywed am y loteri neu'r gystadleuaeth maent yn ei drafod
  • Nid ydych wedi prynu tocyn loteri - dim tocyn, dim gwobr!
  • Maent yn dweud wrthych am ymateb yn sydyn fel nad ydych yn cael cyfle i gysidro neu i ofyn wrth deulu neu ffrindiau cyn i chi benderfynu
  • Maent yn dweud wrthych am ei gadw yn gyfrinach
  • Ymddangos eich bod yn cael rhywbeth yn rhad ac am ddim
  • Rhywbeth yn swnio yn rhy dda i fod yn wir – y tebygolrwydd yw ei fod!

  • Peidiwch byth a rhoi eich manylion cyswllt fel eich enw, rhif ffôn neu eich cyfeiriad i ddieithriaid neu i bobl sydd i fod gyda’r gwybodaeth yma yn barod.
  • Peidiwch byth a rhoi manylion eich hunaniaeth neu eich gwybodaeth ariannol, cyfrifon banc neu gardiau credyd i ddieithriaid neu i fusnes sydd gydag eich manylion personol yn barod.
  • Llarpiwch/ difrodwch unrhyw beth sydd gydag eich manylion personol neu fanc - peidiwch â’u taflu i ffwrdd.

Gwybodaeth bellach

Trwy'r Post ...

  • Edrychwch ar du allan i bob darn o bost a phenderfynu os yw yn debygol o fod yn sgâm.  Fel arfer ar yr amlen gwelir ‘winning documentation, confirmed cheque, guaranteed delivery of a cheque for £xxx,' taflwch y rhain heb eu hagor.
  • Yn fwy aml na dim daw'r post sgam o dramor e.e. Hong Kong, Yr Iseldiroedd, Las Vegas neu Awstralia.  Os nad oes gennych deulu neu ffrindiau yn y gwledydd yma taflwch y post i ffwrdd heb eu hagor.
  • Peidiwch ag ymateb i bost sgam / digroeso, unwaith yr ydych wedi ymateb i un, bydd y cyfanswm o bost sgâm yn cynyddu.
  • Dinistriwch a thaflwch post sgam (ond cofiwch larpio eich manylion personol yn gyntaf)

Dros y Ffôn...

  • Peidiwch â rhoi eich manylion personol na manylion banc dros y ffôn
  • Peidiwch â chael eich llusgo i mewn i drafodaeth gyda galwr digroeso
  • Dywedwch ‘dim diolch’ a rhowch y ffôn i lawr
  • Gofynnwch i ffrindiau, cymdogion neu deulu os ydych gyda diddordeb mewn cynnig, fe allent eich cynorthwyo i weld os yw yn sgâm ai peidio

Drwy E-byst neu negeseuon testyn...

  • Peidiwch â chlicio ar unrhyw linc sydd wedi dod gan gyswllt anhysbys neu os ydyw gan rywun yr ydych yn ei adnabod ond nad oes neges, dim ond linc.
  • Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau ar-lein sydd gan asiantaethau swyddogol e.e. Llywodraeth, HMRC ayyb. 
    Nid yw asiantaethau swyddogol yn e-bostio i ofyn am fanylion personol.

  • Cofrestrwch gyda'r Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn AM DDIM i leihau galwadau ffôn di-groeso a negeseuon testun.
    Gwefan: Gwefan 'Telephone Prefrence Service'
    Ffôn: 0345 070 0707
  • Anfonwch negeseuon testyn 'sbam' i'ch darparwr ffôn symudol – Mae gan y rhwydweithiau mawr ffordd syml, rhad ac am ddim, i'ch helpu i wneud hyn. Anfonwch eich neges i 7726 (sy’n sillafu SPAM), gan sicrhau ei fod yn cynnwys rhif yr anfonwr.
  • Dileu a blocio e-byst sgam
  • Mae gan yr Uned Safonau Masnach nifer cyfyngedig o atalyddion galw a all fod ar gael i’r oedrannus a phobl sy'n agored i niwed.

  • Cofrestrwch AM DDIM gyda'r Gwasanaeth Dewis Post. Bydd hyn yn atal post sydd heb eich cyfeiriad chi arno, er enghraifft: papurau newydd am ddim neu bwndeli o daflenni hysbysebu.
    Ffôn: 020 7291 3300 
    Gwefan: 
    www.mpsonline.org.uk
  • Ymunwch a chynllun ‘tynnu’n ôl’ y Post Brenhinol ble mae’n bosib dewis peidio derbyn deunydd di-gyfeiriad drwy eich blwch post. 
  • Rhowch wybod i'r Post Brenhinol am unrhyw sgam yr ydych wedi ei dderbyn trwy'r post.
    Ffôn: 08456 113 413
    E-bost:
    scam.mail@royalmail.com
    Cyfeiriad: Scam Mail, PO Box 797, Exeter, EX1 9UN

Mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'r sgamiau ar-lein diweddaraf er mwyn amddiffyn eich hun rhag cael eich twyllo. Am wybodaeth cyfredol ewch i'r gwefannau isod. 

Os ydych wedi eich twyllo, neu yn meddwl bod rhywun wedi trio eich twyllo,

  • Ffoniwch Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 05 (llinell Gymraeg).  
  • Ffoniwch Atal Twyll ar (0)161 234 9230 (llinell Gymraeg) neu ymwelwch â’u gwefan
  • Rhybuddiwch rhywun - addysgu ffrind, cymydog neu berthynas am y peryglon o sgamiau.