Mesuryddion Trydan Clyfar

Beth yw mesurydd clyfar?

Mesuryddion clyfar yw’r genhedlaeth newydd o fesuryddion nwy a thrydan, a fydd yn disodli’r mesuryddion traddodiadol yn ein cartrefi.

Byddwch yn derbyn sgrîn ynni ar gyfer eich cartref, sy’n dangos yn union faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio wrth i chi ei ddefnyddio, a faint yw’r gost mewn punnoedd a cheiniogau.

Bydd biliau yn gywir, heb gael eu hamcangyfrif, wrth i’r darlleniadau mesurydd rheolaidd cael eu rhannu’n uniongyrchol â’ch cyflenwr ynni trwy rwydwaith diwifr diogel.

Yn y dyfodol, bydd newid rhwng cyflenwyr, neu rhwng credyd a rhagdalu, yn gyflymach ac yn haws. Bydd cwsmeriaid rhagdalu hefyd yn gallu rhoi arian ar y mesurydd ar-lein neu trwy ff.n symudol.

Cysylltwch â’ch cyflenwr ynni heddiw ynglŷn â gosod mesurydd clyfar.