Pwyllgor Cynllunio a'ch hawl i siarad

Y Pwyllgor Cynllunio

I weld gwybodaeth am y Pwyllgor Cynllunio a cheisiadau sy'n mynd gerbron y pwyllgor, ewch i'r adran Pwyllgorau ar y wefan hon: Y Pwyllgor Cynllunio.

Eich hawl i siarad yn y Pwyllgor Cynllunio

Gall unrhyw un fynychu pwyllgor cynllunio er mwyn gwrando ar y trafodaethau, ond ni fydd gennych hawl i ymyrryd yn y drafodaeth nac i leisio barn oni bai eich bod yn cyflwyno cais i siarad ymlaen llaw.

Gall gwrthwynebwyr a chefnogwyr wneud cais i siarad am hyd at 3 munud yn y Pwyllgor Cynllunio. Mae siaradwyr yn cael eu cyfyngu i un o blaid ac un yn erbyn unrhyw gais unigol.

Am ragor o wybodaeth am eich hawl i siarad mewn pwyllgor, edrychwch ar y daflenni Yr hawl i siarad mewn pwyllgor cynllunio & canllawiau gweithredol.


Cyflwyno cais i siarad mewn pwyllgor

Cyn cyflwyno cais i siarad mewn Pwyllgor Cynllunio, darllenwch y daflen Yr hawl i siarad mewn pwyllgor cynllunio.

Mae'n rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig i’r Gwasanaeth Cynllunio cyn gynted â phosib – fan bellaf erbyn 5pm ar y dydd Iau cyn y Pwyllgor. Gallwch wneud hyn:

  • E-bost: cynllunio@gwynedd.llyw.cymru
  • Llythyr: wedi ei gyfeirio at y Gwasanaeth Cynllunio, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd. LL53 5AA

 

Am ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cynllunio edrychwch ar y daflen Trefniant Pwyllgor Cynllunio.

 

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â ni: