Enwi eiddo

Cyngor Gwynedd yw’r awdurdod sy’n gyfrifol am enwi a rhifo strydoedd yng Ngwynedd.

Unwaith mae cynllun yn derbyn cymeradwyaeth gan yr adran rheolaeth adeiladu a’r adran gynllunio, mae’n bwysig bod enw’n cael ei roi ar y datblygiad. Mae hyn yn sicrhau bod cyrff statudol megis y gwasanaeth tân, heddlu, ambiwlans a’r gwasanaeth post i gyd yn ymwybodol o’r enw newydd ac yn ei defnyddio.

 

Sut i wneud cais

Gwneud cais ar-lein

Defnyddiwch y ffurflen gais uchod i: 

  • enwi tŷ/busnes/fflat newydd
  • enwi stad newydd
  • newid enw tŷ/busnes/fflat
  • newid neu ychwanegu enw i stryd/teras/stad

Unwaith mae’r enw’n weithredol, mae nifer o gyrff statudol yn cael eu hysbysu. 


Ffioedd

Ffioedd enwi eiddo
CategoriFfi
Enwi / ailenwi eiddo (ddim yn cynnwys eiddo newydd) £66
Datblygiad plot unigol £132
Datblygiad 2 blot neu fwy £132 + £66 y plot
Datblygiad 50 plot neu fwy £132 + £33 y plot
Newidiadau i gynllun datblygiad ar ôl hysbysiad £66 y plot
Ailenwi stryd ar gais trigolion £132 + £66 yr eiddo
Cadarnhau cyfeiriad i drawsgludwyr ayyb. £66

 

Enwau Cymraeg ar eiddo a strydoedd

Rydym yn annog y defnydd o enwau Cymraeg ar eiddo yng Ngwynedd.

Mae hefyd yn ofynnol i enwau arfaethedig fod yn:

  • ddwyieithog, oni bai bod yr enw arfaethedig yn Gymraeg;
  • rhwydd i’w gyfieithu i’r Gymraeg;
  • enw’n deillio o gysylltiadau hanesyddol, daearyddol neu leol i’r ardal, os yn ymarferol.

Os yw’r enw presennol yn un gwreiddiol neu wedi bod yn enw ar yr eiddo ers amser maith, yn enwedig os yw’r enw’n un Cymreig, byddwn yn gofyn i chi ailystyried. Gallwn ofn i chi ystyried hyd yn oed os yw’r enw Cymraeg yn un newydd. Fodd bynnag, mae’r penderfyniad terfynol yn nwylo’r perchennog.

 

Osgoi dyblygiad

Weithiau mae gwrthwynebiadau i enwau arfaethedig, yn bennaf oherwydd gallai’r enw gael ei gymysgu gydag enwau tebyg eraill yn yr ardal. Mewn achosion fel hyn bydd y Cyngor yn gofyn i’r ymgeisydd ailystyried a meddwl am enw arall.

 

Sut mae stryd / stad newydd yn cael ei rifo?

Y Cyngor, mewn trafodaethau gyda’r datblygwr, sy’n penderfynu ar rifau eiddo newydd. Mae eilrifau fel arfer ar y chwith i fynediad datblygiad, a odrifau ar yr ochor dde. Os yw’r datblygiad yn fach, gall yr eiddo gael ei rhifo yn y drefn arferol, e.e 1 -7.

Bydd yn gwirio eich enw arfaethedig i wneud siŵr nad yw’n dyblygu enw arall yn yr ardal leol, a’i basio ymlaen i’r Post Brenhinol ac adrannau eraill i’w ystyried. Unwaith mae pawb yn gytûn ar yr enw, byddwn yn cofrestru enw’r stryd a pharatoi rhaglen rifo. Bydd yr wybodaeth yn cael ei anfon i wasanaethau cyhoeddus, i’r gwasanaethau brys, i’r Gofrestra Tir, yr Arolwg Ordnans a gwasanaethau perthnasol y Cyngor. Byddwn hefyd yn anfon copi o’r rhaglen enwi a rhifo ac yn gofyn i chi hysbysu eich darpar brynwyr o gyfeiriad yr eiddo newydd. Mewn rhai achosion byddwn yn gofyn i chi ddarparu arwyddion stryd newydd sy’n cyd-fynd â’r dyluniad safonol.


Beth sy’n digwydd os yw stryd angen ei ailenwi / ail rifo?

Mewn achosion prin, weithiau mae angen ailenwi neu ail rifo stryd. Cam olaf yw hyn pan mae:

  • dryswch ynglŷn ag enw / rhifau stryd;
  • grŵp o drigolion yn anhapus efo enw’r stryd;
  • eiddo newydd yn cael ei adeiladu mewn stryd ac mae angen ail rifo’r eiddo presennol i gynnwys yr eiddo newydd; neu
  • nifer yr eiddo sydd wedi’u henwi yn unig yn achosi dryswch i ymwelwyr, y gwasanaeth post, neu’r gwasanaethau brys.