Rhoi sylw ar gais cynllunio

Yn ystod y cyfnod ymgynghori 21 diwrnod gall unrhyw un gyflwyno sylwadau yn gwrthwynebu neu yn cefnogi datblygiad. Bydd pob sylw dilys yn cael ei ystyried wrth benderfynu ar y cais.  Dim ond yn ystod y cyfnod 21 diwrnod yma mae'n bosib rhoi sylw ar gais cynllunio.


Sut mae rhoi sylw ar gais cynllunio?

Mae’n bosib rhoi sylwadau: 

  • Ar-lein: Dilyn a Darganfod ceisiadau cynllunio
    Bydd angen i chi chwilio am y cais yr ydych am roi sylw arno yn y system Dilyn a Darganfod, ac yna clicio ar Rhowch sylw ar y cais hwn.
  • Llythyr: Anfonwch eich sylwadau drwy lythyr i:
    Gwasanaeth Cynllunio, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd. LL53 5AA   

Mae’n bosib gweld manylion ceisiadau cynllunio drwy edrych ar y system Dilyn a Darganfod ceisiadau cynllunio ar-lein,
Neu, gallwch fynd draw i: Siop Gwynedd, Ffordd y Cob, Pwllheli (Llun - Gwener, 09:00 - 17:00).

 

Pa fath o sylwadau fydd yn cael eu hystyried?

Y math mwyaf cyffredin o sylwadau a fydd yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses ymgynghori yw: 

  • a yw'r datblygiad yn cydymffurfio gyda'r polisïau cynllunio a'r Cynllun Datblygu Lleol?
  • sylwadau am y dyluniad
  • effaith ar dai cyfagos megis colli golau neu breifatrwydd sylweddol
  • effaith ar ddiogelwch ar y briffordd 

Ni fydd sylwadau am yr isod yn cael eu hystyried: sy’n dod i law am:

  • golli golygfa
  • ffrae am berchnogaeth tir
  • cymeriad yr ymgeisydd
  • materion moesol
  • colli gwerth eiddo

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y daflen Sut i wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio 


Beth fydd yn digwydd os bydd gwrthwynebiadau i'm cais yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor?

Bydd copi o’r gwrthwynebiad (neu gefnogaeth) yn cael ei roi ar y ffeil gynllunio bapur sydd yn ffeil gyhoeddus ac bydd y swyddog achos yn ystyried y sylwadau o blaid ac/neu yn erbyn wrth asesu’r cais. Nid yw derbyn gwrthwynebiadau i gais o reidrwydd yn golygu y bydd y cais yn cael ei wrthod.