Ffioedd cynllunio / sut mae talu

Gyda rhai mathau o geisiadau cynllunio bydd ffi yn daladwy. 

Mae'n rhaid talu’r ffi ar yr un diwrnod ac y mae'r cais yn cael ei gyflwyno. 


Faint fydd y cais yn ei gostio?

Bydd pris cyflwyno cais yn amrywio yn ddibynnol ar y datblygiad. Er mwyn cyfrifo cost y cais, ewch i wefan y Porth Cynllunio, a rhoi manylion y cais i mewn:

Gweld y ffioedd ar gyfer cyflwyno cais cynllunio

Am ragor o wybodaeth am ffioedd cynllunio ewch i wefan deddfwriaeth.gov.uk


Sut mae talu?

  • Ar-lein - drwy'r Porth Cynllunio: os byddwch yn dewis cyflwyno eich cais ar-lein gallwch dalu'r ffi ar yr un pryd drwy wefan y Porth Cynllunio  
  • Dros y ffôn: drwy ffonio 01766 771000 (Dewis Opsiwn 4) a thalu gyda cherdyn debyd. Byddwch angen cadarnhau:
    Eich enw a manylion cyswllt / enw eich asiant (os yn berthnasol) / lleoliad y datblygiad / disgrifiad o'r datblygiad / y ffi sy'n daladwy
  • Drwy'r post: drwy anfon siec gyda'ch cais yn daladwy i Cyngor Gwynedd i:
    Gwasanaeth Cynllunio,  Swyddfa’r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd LL53 5AA
  • Wyneb yn wyneb: gallwch dalu'r ffi cynllunio gyda siec ynghlwm wrth eich cais yn
    Siop Gwynedd, Ffordd y Cob, Pwllheli
    Byddwch angen gwybod y ffi sy'n daladwy o flaen llaw.

Dalier sylw: Nid ydym yn argymell eich bod yn talu gydag arian parod. Os ydych am dalu gydag arian parod, bydd rhaid i chi fynd i Siop Gwynedd, Ffordd y Cob, Pwllheli, a gofyn am weld swyddog o'r Gwasanaeth Cynllunio.