Cwynion: torri rheolau cynllunio

Os ydych yn credu bod unrhyw ddatblygiad neu waith yng Ngwynedd (ac eithrio ardal Parc Cenedlaethol Eryri) yn torri rheolau cynllunio, rhowch wybod i ni. 


Cysylltu â ni

Cwyn am achos o dorri rheolau cynllunio arlein  
(Y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif) 


Enghreifftiau o dorri rheolau / amodau cynllunio

  • Datblygiad sydd angen caniatâd cynllunio yn mynd yn ei flaen heb ganiatâd – naill ai oherwydd fod y cais cynllunio wedi ei wrthod neu oherwydd na chafodd cais ei gyflwyno o gwbl 
  • Datblygiad sydd wedi derbyn caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar amodau ond bod un neu fwy o’r amodau hynny yn cael eu torri
  • Newid defnydd adeilad heb y caniatâd angenrheidiol
  • Gwaith heb ganiatâd ar adeilad rhestredig ac adeiladau o fewn ardal gadwraeth
  • Gwaith heb ganiatâd ar goeden o fewn Ardal Gadwraeth neu goeden wedi ei gwarchod gyda Gorchymyn Diogelu Coed
  • Cwynion gwrychoedd uchel

Ni fyddwn yn ystyried y canlynol:

  • Anghydfod ynglŷn â pherchnogaeth tir - cysylltwch â'r Gofrestrfa Tir
  • Gweithgareddau ar briffyrdd cyhoeddus: cysylltwch â'r Gwasanaeth Priffyrdd drwy ffonio 01766 771000
  • Materion iechyd yr amgylchedd e.e. llygredd a glendid: cysylltwch â Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd drwy ffonio 01766 771000
  • Adeiladau peryglus - cysylltwch â'r Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu drwy ffonio 01766 771000


Rhagor o wybodaeth