Glendid mewn sefydliadau bwyd

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn eich helpu i ddewis ble i fwyta allan neu i siopa am fwyd drwy roi gwybodaeth i chi am y safonau hylendid mewn gwahanol sefydliadau bwyd. Mae’r cynllun yng Ngwynedd yn cael ei redeg ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a’r Asiantaeth Safonau Bwyd.



Pryder ynglŷn â sefydliad sy’n gwerthu bwyd

Os oes gennych bryder am safonau hylendid mewn sefydliad sydd yn gwerthu bwyd yng Ngwynedd, cysylltwch â ni:

 

Gwenwyn bwyd

Mae gwenwyn bwyd yn salwch sy'n cael ei achosi drwy fwyta bwyd, neu yfed diod sy'n cynnwys bacteria, firws neu barasitiaid.

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gwenwyn bwyd, y cam cyntaf yw cysylltu â'ch meddyg teulu.

Mae gwybodaeth am y gwahanol fathau o wenwyn bwyd ar gael yn y taflenni gwybodaeth canlynol.

Am fwy o wybodaeth gyffredinol ynglŷn â gwenwyn bwyd cysylltwch â ni: