Tag / microsglodyn adnabod

Mae’n rhaid i bob ci gael tag ar ei goler sy’n nodi enw a chyfeiriad ei berchennog pan fydd mewn lle cyhoeddus. Os nad oes tag ar goler ci, mae'n bosib y bydd y perchennog yn derbyn dirwy. 

 

Microsglodyn

Rhaid rhoi microsglodyn ar bob ci dros 8 wythnos oed a chofrestru manylion y perchennog ar gronfa ddata gymeradwy.

Os nad oes gan eich ci ficrosglodyn, gallwch gael eich dirwyo hyd at £500.

 

Beth mae gosod microsglodyn yn ei olygu?

Mae sglodyn, sydd yr un maint â darn o reis, yn cael ei osod o dan groen y ci. Mae’r sglodyn yn cario rhif gwybodaeth arbennig sy’n dal manylion y perchennog.

Mae gan warden cŵn, milfeddyg, cenel cŵn ac eraill sganwyr. Os bydd y ci’n mynd ar goll, bydd un o'r rhain yn gallu cysylltu â'r perchennog yn syth.

 

Sut mae cael microsglodyn?

  • ewch at y milfeddyg lleol - mae’n costio rhwng £15 a £25 fel arfer
  • cadwch lygad am gynigion arbennig gan fudiadau fel yr Ymddiriedolaeth Cŵn (www.dogstrust.org.uk)

I osod microsglodyn, rhaid cael unigolyn sydd wedi derbyn hyfforddiant.

 

Cadw’r wybodaeth ar y microsglodyn yn gyfoes

Rhaid i chi ddiweddaru’r wybodaeth sydd ar y microsglodyn, e.e. pan yn symud tŷ rhaid cysylltu â’r cwmni cronfa ddata er mwyn diweddaru eich manylion.  Efallai byddwch yn gorfod talu am ddiweddaru'r wybodaeth ar ficrosglodyn eich ci.  

Mwy o wybodaeth

 

Ar-lein: Gofyn cyngor ynghylch microsglodion

Ffôn: 01766 771000 (08:30 - 17:00, Llun - Gwener)