Cŵn coll

Os yw eich ci ar goll:

  1. cysylltwch â ni. Rydym yn cadw cofnod o gŵn coll a gallwn roi gwybod i chi os bydd un o’r Wardeiniaid Cŵn yn dod o hyd iddo.
           ar-lein: Rhoi gwybod am gi sydd ar goll
           ffôn: 01766 771000  (08:30 - 17:00, Llun - Gwener)
  2. cysylltwch â'r filfeddygfa leol rhag ofn fod rhywun wedi dod o hyd i'r ci
  3. os oes microsglodyn ar eich ci, rhowch wybod i’r cwmni sydd wedi ei gofrestru
  4. edrychwch ar wefannau cŵn fel www.doglost.co.uk
  5. os ydych yn credu bod rhywun wedi dwyn eich ci, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu 0300 330 0101
  6. os yw’r ci wedi ei yswirio, rhowch wybod i’r cwmni yswiriant.