Y cap budd-daliadau

Mae uchafswm ar y cyfanswm o fudd-dal y gall y mwyafrif o bobl oedran gweithio ei dderbyn, sy’n cael ei alw’n y cap budd-daliadau.

Y cap ydi:

  • £384.62  yr wythnos i deuluoedd (efo plant neu beidio)
  • £384.62  yr wythnos i rieni sengl gyda’i plant yn byw efo nhw
  • £257.69 yr wythnos i oedolion sengl heb blant, neu nad yw eu plant yn byw gyda nhw.

Nid yw’r cap yn berthnasol:

  • i bobl sy’n ddigon hen i gymhwyso am gredyd pensiwn 
  • os oes rhywun yn eich aelwyd yn cymhwyso am Gredyd Treth Gwaith, neu’n cael rhai budd-daliadau penodol megis Lwfans Byw i’r Anabl, Taliad Annibyniaeth Personol, Lwfans Gweini, yr elfen cefnogaeth o Lwfans Cyflogaeth a Chefnogaeth.
  • am y 39 wythnos cyntaf o fod yn ddi-waith, os ydych chi, neu’ch partner wedi bod yn gweithio’n barhaus am y 12 mis blaenorol.

Gallwch weld ar wefan y llywodraeth (Saesneg yn unig) os yw’r cap yn berthnasol i chi, a sut mae’n cael ei gyfrifo.


Yr effaith ar Fudd-dal Tai

Os yw’r cap yn eich effeithio, byddwn yn gostwng eich Budd-dal Tai fel nad yw cyfanswm eich incwm yn uwch na’r uchafswm. Mae hyn yn golygu y gallech orfod defnyddio arian o rai o’ch budd-daliadau eraill i dalu rhan neu eich holl rhent.

Os ydych yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni i drafod.