Cronfa Datblygu Gwirfoddol - Cist Gwynedd

Grant ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol y sir ydi Cronfa Datblygu Gwirfoddol. Ei brif nod yw cefnogi cynlluniau a fydd yn gwella ansawdd bywyd trigolion, grwpiau a chymunedau yng Ngwynedd.


Pwy all geisio am y grant?

Gall grwpiau cymunedol a gwirfoddol geisio am grant Cronfa Datblygu Gwirfoddol.

Bydd y grant yn cael ei ddyfarnu i gynlluniau sy’n adlewyrchu un neu ragor o’r amcanion canlynol:

  • Cefnogi gwirfoddolwyr a hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli.
  • Cyfrannu at leihau amddifadedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig
  • Cynyddu cyfleoedd gwaith, datblygiad sgiliau o fewn unigolion a chymunedau, yn arbennig pobl ifanc, a’r rhai sydd dan anfantais, a hybu cyfle cyfartal i bawb
  • Gwella diogelwch ac atal neu ostwng  ymddygiad gwrth cymdeithasol o fewn cymunedau
  • Adnabod ac ymateb i anghenion cymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol y gymuned
  • Hybu buddsoddiad a datblygiad yr economi leol
  • Annog gwarchod a chyfoethogi’r amgylchedd
  • Gweithio mewn partneriaeth
  • Creu cymunedau cynaliadwy


Faint o arian sydd ar gael yn 2017-18?

Mae £70,000 ar gael eleni ar gyfer y gronfa cyfalaf a tua £40,000 ar gyfer y gronfa refeniw, i'w rannu i grwpiau drwy Wynedd.

Croesawir ceisiadau grant am hyd at £10,000. 

Bydd pob cais yn cael ei asesu ar ei deilyngdod ei hun.


Sut mae gwneud cais am arian?

Er mwyn gwneud cais bydd angen i chi gwblhau'r ffurflen gais a’i dychwelyd drwy’r post i’r cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen ei hun.

Rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn trafod eich cais gyda Swyddog Adfywio o'r ardal berthnasol cyn cyflwyno eich cais. 

  • Swyddog Adfywio Ogwen              01248 605 276
  • Swyddog Adfywio Gwyrfai             01286 882 968
  • Swyddog Adfywio Dwyfor              01758 704 120
  • Swyddog Adfywio Meirionnydd      01341 424 504


Pryd ddylid cyflwyno'r cais?

Mae'r grant yn cael ei ddyfarnu yn chwarterol. Dylid sicrhau fod y ffurflen gais wedi ei chwblhau a bod yr holl ddogfennau cefnogol, technegol, angenrheidiol wedi eu derbyn y dyddiad cau sydd yn y ddogfen 'Canllawiau'.


Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth am y grant, edrychwch ar y manylion llawn.

Gallwch hefyd gysylltu drwy anfon e-bost i CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru neu drwy ffonio'r Swyddog Adfywio eich ardal - rhifau ffôn wedi eu nodi uchod.


Adroddiad Blynyddol Cist Gwynedd

Cyhoeddir yr Adroddiad i restru’r prosiectau diweddaraf a gefnogwyd gan Gist Gwynedd ac i ddarlunio effaith y buddsoddiad.