Gwybodaeth i landlordiaid

Os ydym yn talu’ch tenant, maent yn gallu rhoi caniatâd ysgrifenedig i ni i siarad efo chi am sefyllfa  eu cais a’r taliadau. Rhaid iddynt arwyddo’r blwch caniatâd ar y ffurflen gais neu ysgrifennu atom.

Gyda chaniatâd cyfredol y tenant gallwn ddweud wrthoch:

  • pa gynnydd sydd wedi'i wneud gyda’r cais, 
  • os ydym wedi gwneud penderfyniad,
  • pa bryd fyddwn yn gwneud y taliad.

Ond ni fyddwn yn gallu datgelu manylion cyfrinachol megis:

  • manylion personol am eu haelwyd neu sefyllfa ariannol

Heb eu caniatâd cyfredol, ni allwn roi unrhyw wybodaeth i chi. Ni allwn hyd yn oed gadarnhau eu bod wedi gwneud cais am Fudd-dal Tai.  

Yn gyffredinol, nid ydym yn talu’n uniongyrchol i landlordiaid, gan fod rheolau LTL yn disgwyl i denantiaid gymryd mwy o gyfrifoldeb am reoli eu materion ariannol a thalu eu rhent i'w landlordiaid, yn yr un ffordd ag y mae tenantiaid eraill nad ydynt yn derbyn budd-daliadau yn ei wneud. Dyma pam bod unrhyw fudd-dal yn cael ei dalu i'r tenant yn hytrach na'r landlord. 


Diogelu landlordiaid

Mae amrywiaeth o fesurau diogelwch ar gael i ddiogelu buddiannau landlordiaid. Er enghraifft, yn arferol bydd raid i ni dalu budd-dal yn uniongyrchol i’r landlord os yw’r tenant gydag wyth wythnos neu fwy o ôl-ddyled rhent.

Gellir hefyd wneud taliad uniongyrchol i'r landlord os penderfynwn fod un o'r canlynol yn berthnasol i'r tenant: 

  • maent yn debygol o gael trafferth rheoli eu materion ariannol, neu 
  • maent yn annhebygol o dalu eu rhent,
  • mae gennym hefyd ddisgresiwn i dalu Budd-dal Tai yn uniongyrchol i chi mewn amgylchiadau arbennig pan fyddai hynny yn cynorthwyo'r tenant i sicrhau'r denantiaeth, neu aros yn eu cartref presennol ar rent llai.

Os ydym yn eich talu’n uniongyrchol:

Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud hynny, a bydd yr hysbysiad yn cynnwys y manylion canlynol:

  • pryd byddwn yn talu’r budd-dal yn uniongyrchol i chi
  • swm wythnosol y budd-dal 
  • os oes gordaliad, y swm wythnosol fydd yn cael ei dynnu'n uniongyrchol o’r Budd-dal Tai yn wythnosol  i adennill y gordaliad.

Os ydych yn dymuno trafod unrhyw un o’r pwyntiau uchod, cysylltwch â ni.