Lwfans Tai Lleol

Mae Lwfans Tai Lleol yn ffordd o gyfrifo ceisiadau newydd ar gyfer Budd-dal Tai i denantiaid sy'n rhentu eiddo gan landlord preifat. Mae pob tenant newydd a rhai tenantiaid sydd â newidiadau yn eu hamgylchiadau ers Ebrill 2008 yn cael eu talu o dan y gyfundrefn Lwfans Tai Lleol.

Mae’r swm o Fudd-dal Tai sy'n cael ei dalu i chi o dan reolau LTL yn dibynnu ar:

  • pwy sy’n byw efo chi – yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r nifer ystafelloedd gwely rydych yn gymwys iddynt 
  • ym mha ran o Wynedd rydych yn byw ynddi  - mae gwahanol Gyfraddau Lwfans Tai Lleol
  • beth yw eich incwm
  • faint o arbedion sydd gennych 
  • eich rhent taladwy


Sawl ystafell wely rydych yn gymwys iddynt? 

Mae’r nifer o bobl sy’n byw efo chi yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo sawl ystafell wely rydych yn gymwys iddynt. Nid yw ystafelloedd eraill megis ystafell fyw, cegin neu ystafell ymolchi yn cael eu cyfri. 

Mae’r nifer o ystafelloedd gwely rydych yn gymwys iddynt yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo pa gyfradd LTL sy’n berthnasol i’ch cais. Caniateir un ystafell wely ar gyfer:

  • pob cwpwl oedolyn (priod neu beidio)
  • unrhyw oedolyn arall dros 16 oed
  • unrhyw ddau blentyn o’r un rhyw o dan 16 oed
  • unrhyw ddau blentyn o dan 10 oed
  • unrhyw blentyn arall
  • gofalwyr, os ydych angen gofal yn eich cartref dros nos


Beth arall allai effeithio’r gyfradd Lwfans Tai Lleol?

Mae rheolau ychwanegol os ydych:

  • o dan 35 oed, yn sengl a ddim yn byw efo dibynyddion 
  • yn gwpl a ddim yn byw efo dibynyddion 
  • wedi gadael gofal ac o dan 22 oed
  • gydag anabledd difrifol
  • yn denant ar y cyd


Sut y telir eich budd-dal? 

Yn arferol gyda'r Lwfans Tai Lleol, bydd y budd-dal yn cael ei dalu i chi ac nid i'ch landlord. Ni allwch ddewis fod eich budd-dal yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch landlord am ei fod yn fwy hwylus. Ond fe allwn dalu budd-dal i'ch landlord os ydym yn penderfynu ei bod yn debygol y byddwch yn cael trafferth talu eich rhent.

Os bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei dalu'n uniongyrchol i chi, bydd yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, os oes gennych un, neu drwy siec.

Os nad oes gennych gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn barod, efallai y byddwch angen trefnu i agor un. 

Gallwch gael cyngor ar agor a chynnal cyfrif banc gan unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu. Gallwch hefyd gael cyngor gennym ni, neu sefydliad lles fel Cyngor ar Bopeth.


Budd-dal Tai a delir yn uniongyrchol i’ch landlord

Bydd eich budd-dal yn cael ei dalu i chi oni bai eich bod yn debygol o gael trafferth i dalu’ch rhent, os hynny, gellir ei dalu’n uniongyrchol i'ch landlord.

Os ydych yn poeni na allwch reoli eich arian, cysylltwch â ni i drafod: Cysylltu â ni