Cwestiynau a ofynnir yn aml

  • gwair
  • dail
  • brigau
  • blodau/planhigion
  • chwyn

Beth sydd ddim yn cael ei derbyn?

  • mwd
  • pridd
  • bagiau plastig
  • potiau plastig
  • cerrig
  • rwbel
  • baw ci

Nid oes casgliadau bin brown yn ystod mis Ionawr. Os nad ydych chi am aros tan casgliad mis Chwefror gallwch fynd â'ch coeden i unrhyw un o ganolfannau ailgylchu Gwynedd.

Bydd eich gwastraff gardd yn cael ei gasglu 22 wythnos y flwyddyn (dim casgliad dros y Nadolig a'r Flwyddyn newydd nac yn ystod mis Ionawr). Mae'r gwastraff yn cael ei gasglu bob 2 wythnos.

£37 y flwyddyn am gasglu llond un bin olwyn brown bob 2 wythnos. Fe wnawn ni gasglu hyd at 4 bin ar y tro. Bydd yr 2il fin yn £31 ar ben hynny, a'r 3ydd yn £31 arall, a'r 4ydd yn £31 ar ben hynny eto.

Gallwch dalu:

  • gyda cherdyn credyd/debyd wrth gyflwyno eich cais ar-lein 
    (rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
  • drwy ffonio 01766 771000 a thalu gyda cherdyn credyd/debyd
  • drwy ymweld ag un o Siopau Gwynedd a thalu gyda siec neu archeb bost.

£37 yw'r pris ar gyfer gwagio bin olwyn bach (140 litr) hefyd. Os mai bin bach sydd gennych gallwch ei newid am un mawr (240 litr). Gallwch wneud hyn: 

  • Ar-lein: Archebu cyfarpar
    (rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)
  • Ffôn: 01766 771000

Os ydych yn cael sachau gwastraff gardd yn lle bin olwyn rhaid talu £37 y flwyddyn am y gwasanaeth. Bydd y cyflenwad newydd o 125 o fagiau yn lliw gwahanol, a dim ond y bagiau newydd fydd yn cael eu casglu unwaith bydd y drefn newydd wedi cychwyn. I archebu sachau newydd ffoniwch 01766 771000.

Ar ôl i chi dalu, byddwch yn cael sticer trwy'r post. Bydd angen i chi osod hwn ar eich bin brown. Mae'n rhaid i'r sticer yma fod ar eich bin er mwyn iddo gael ei gasglu. 

Os yw eich sticer yn cael ei falu neu ei ddwyn cysylltwch â ni i archebu sticer newydd.

Cewch. Mae posib archebu hyd at 4 casgliad.

Bydd y cytundeb casglu cyntaf yn £37 y flwyddyn a phob casgliad ychwanegol yn £31 yr un.

Cofiwch: Wedi i chi archebu'r casgliadau, byddwch yn cael sticer drwy’r post i’w roi ar eich bin olwyn brown.

Na, dim ond gwastraff sydd i mewn yn y bin brown gyda'r caead wedi cau y byddwn yn ei gasglu. 

Gallwch ymuno â'r gwasanaeth rhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond £37 fydd y ffi yr run fath. Mae'r flwyddyn yn rhedeg o Chwefror 2024 hyd at Rhagfyr 2024. Os ydych yn dewis aros tan fis Mehefin cyn archebu'r gwasanaeth byddwch yn derbyn llai o gasgliadau, ond bydd y pris dal yn £37.  

Nac oes, nid oes rhaid i chi wneud dim. Bydd disgwyl i chi gadw y bin brown yn eich cartref rhag ofn y bydd rhywun arall yn y tŷ yn dymuno defnyddio'r gwasanaeth yn y dyfodol

Rhoi eich gwastraff gardd mewn bin compost yw'r ffordd orau o gael gwared o'ch gwastraff gardd.

Opsiwn arall yw mynd â'ch gwastraff gardd i'ch Canolfan ailgylchu gwastraff tŷ agosaf.

Ni fyddwn yn rhoi ad-daliad am y gwasanaeth, ond gallwch drosgwlyddo'r gwasanaeth i'ch tŷ newydd. Bydd rhaid i chi gysylltu â ni i gadarnhau eich manylion. 

Os yn symud i dŷ tu allan o Wynedd ni fyddwch yn derbyn ad-daliad ond gallwch hysbysu y person fydd yn symud i'ch cartref fod y gwasanaeth yn parhau am weddill y flwyddyn.  

Peidiwch â mynd â'r bin brown o'ch cartref os gwelwch yn dda. 

Cewch. Os ydych wedi talu am gasgliad gardd y flwyddyn yma a bod eich bin brown wedi malu, gallwch archebu bin brown newydd ar-lein.

Archebu bin / offer newydd

Os ydym yn methu casglu eich bin brown, cysylltwch â ni o fewn 48 awr a byddwn yn dod yn ôl i'w gasglu mor fuan a phosib ar ôl i chi gysylltu â ni.

Rhoi gwybod am gasgliad wedi ei fethu

Os oes rheswm digonol pam na chafodd eich bin ei gasglu (e.e. y bin ddim allan yr amser cywir / pethau anghywir yn y bin) ni fyddwn yn dychwelyd tan eich casgliad nesaf.

Na. Ni fyddwn yn rhoi ad-daliad am fethu casgliad.

Mae posib i bobl mewn oed neu bobl anabl sy'n cael trafferth i symud eu bin i'r man priodol, gael casgliad drws cefn. Rhagor o wybodaeth

Na. Byddwch angen eich sticer ar y bin cyn eich casgliad. Os nad ydych wedi derbyn eich sticer o fewn 10 diwrnod cysylltwch â ni.