Beth sy'n mynd i pa fin?

Ailgylchu
 Math o finBeth sy'n mynd i pa fin 

 Cartgylchu - Bocs uchaf - Papur

Cartgylchu-top

  • papur
  • papur newydd
  • cylchgronau
  • papur swyddfa
  • post sgrwts
  • papur wedi ei larpio
  • cerdyn

 Cartgylchu - Bocs Canol - 

Plastig a Caniau

Cartgylchu canol

  • caniau bwyd neu ddiod
  • ffoil glân
  • aerosols 
  • poteli plastig 
  • potiau, tybiau a hambyrddau plastig - pot menyn neu iogwrt, pot plastig dal ffrwythau a llysiau a hambyrddau dal cig
  • cartonau bwyd a diod - fel sudd oren neu gawl

Nid ydym yn derbyn bagiau plastig na deunydd lapio plastig. Gweld taflen eitemau plastig

 Cartgylchu - Bocs Gwaelod - gwydr

Cartgyclhu gwaelod

  • poteli gwydr
  • Jariau gwydr

 

 

 Bocs Glas

Bin_glas_200x160

 

Os nad oes gennych Gartgylchu neu os ydych angen cyflwyno eitemau ychwanegol, gallwch ddefnyddio’r bocs glas traddodiadol.

Rhaid gwahanu eitemau yr un fath ar cartgylchu. 

Gweld taflen eitemau plastig

 Bin Brown Bwyd 22 litr

Bin_brown_canolig_200x160

  • pob math o wastraff bwyd - wedi ei goginio neu yn amrwd. e.e. crafion ffrwythau a llysiau, caws, bara, ffa, bara, cig, wyau, gweddillion plât, bwyd sydd wedi pasio ei ddyddiad bwyta, bagiau te, esgyrn a physgod
  • ni allwn dderbyn hylifion - fel llefrith neu olew

Defnyddiwch y bagiau sy'n cael eu darparu i leinio'r bin brown bwyd. Peidiwch â defnyddio unrhyw fagiau eraill.

Angen mwy o fagiau?
Clymwch y label oren sydd tu fewn i'r rolyn bagiau o gwmpas handlen eich bin gwastraff bwyd pan fyddwch yn ei roi allan i'w wagio. (Mae'r label oren yng nghanol y rolyn bagiau a byddwch yn ei weld pan fydd tua 10 bag ar ôl yn y rolyn).

 Bin Gwastraff Gardd

Bin_brown_mawr_200x160

  •  gwair
  • dail
  • brigau
  • blodau/planhigion
  • chwyn

Rhowch yr uchod yn rhydd yn y bin/bagiau gwastraff gardd.

NODER! Bellach mae'n rhaid talu ffi blynyddol am gasgliad gwastraff gardd (bin brown). Rhagor o wybodaeth ac archebu

 Bin Gwyrdd

Bin_gwyrdd_200x160

  •  unrhyw wastraff o'r tŷ nad oes modd ei ailgylchu

Byddwn yn gwagio un bin gwyrdd o bob eiddo pob tair wythnos (neu 3 bag du).

Ni fyddwn yn casglu unrhyw fagiau ychwanegol na gwastraff wrth ochr y bin.

Os ydych yn byw ar lon gul iawn ble mae lori fychan yn casglu eich gwastraff mae’n rhaid sicrhau fod eich gwastraff mewn bagiau duon a ddim yn rhydd yn y bin. 

Offer trydanol: nid ydym yn casglu unrhyw offer trydanol fel rhan o'r casgliad bin gwyrdd. Ewch â nhw i'ch canolfan ailgylchu leol (neu drefnu casgliad gwastraff swmpus

Gwastraff adeiladwyr: nid ydym yn casglu gwastraff adeiladwyr fel rhan o'r casgliad bin gwyrdd. Ewch â nhw i'ch canolfan ailgylchu leol.

Clytiau

Bin_bag_melyn_200x160

Rhaid archebu casgliad clytiau.

Bydd sach melyn yn cael ei adael yn eich tŷ yn wythnosol ar y diwrnod casglu.

Rhowch y clytiau yn y sach melyn a'i adael yn y man casglu arferol.

Trefnu casgliad clytiau ar-lein

Neu ffoniwch 01766 771 000.

Clinigol

Bin_bag_melyn_streipan_ddu_200x160

Mae’n bosib trefnu casgliad gwastraff clinigol ar gyfer pob math o wastraff clinigol, gan gynnwys meddyginiaeth, gorchuddion neu nodwyddau.

Bydd hyn yn cael ei drefnu drwy gais gan eich nyrs gymunedol.

Am fwy o wybodaeth siaradwch gyda'ch darparwr gofal iechyd.

 

 

Beth sy'n digwydd i'ch potel lefrith ar ôl ei rhoi yn y cartgylchu?

 

Beth sy'n digwydd i'ch gwastraff bwyd... 

Mae gwybodaeth ynglŷn â beth sydd yn digwydd i'ch ail-gylchu ar gael ar wefan ailgylchu dros Gymru