Archebu bin / offer newydd

Oedi gyda dosbarthu bocsys ailgylchu a biniau

Os ydych yn archebu bocsys ailgylchu neu finiau newydd, bydd rhaid aros hyd at 35 diwrnod gwaith cyn y byddant yn cael eu dosbarthu.

Mae blaenoriaeth yn cael ei roi i archebion gan fusnesau Gwynedd ar hyn o bryd fel eu bod yn barod ar gyfer y ddeddf ailgylchu yn y gweithle newydd sydd yn dod i rym ym mis Ebrill 2024.

Cofiwch! Os ydych angen mwy o fagiau bwyd gallwch adael nodyn efo’ch cadi bwyd ar eich diwrnod casglu, a bydd bagiau yn cael eu gadael i chi gan y criw casglu.

Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra ac yn diolch am eich dealltwriaeth. 

Close


Defnyddiwch y ffurflen hon er mwyn archebu bin neu offer gwastraff ac ailgylchu newydd

Archebu bin / offer newydd

(bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)

neu ffoniwch 01766 771000.

Wrth gyflwyno eich cais, bydd gofyn i chi gytuno i’r telerau ac amodau, a chaniatau hyd at 35 diwrnod gwaith ar ôl i ni dderbyn y cais i anfon eich cyfarfpar newydd. 

Gallwch archebu:


Cartgylchu 

biniau_glas_200x160

  • 3 bocs glas ar olwynion
  • Bocs top – papur/cerdyn
  • Bocs canol - poteli, potiau, tybiau a hambyrddau plastig, carton a chaniau 

  • Bocs gwaelod – gwydr

 

Bocs glas ailgylchu

Bin_glas_200x160

  • hyd at 4 bocs glas (yn cynnwys caead)
  • hyd at 4 caead newydd (yn lle rhai wedi mynd ar goll/colli/torri)
  • hyd at 4 rhwyd i’w gosod ar ben y bocs (i'w defnyddio yn hytrach na chaead ar gyfer y bocs os ydych yn cael problemau e.e. bod y caead yn cael ei golli neu ei dorri yn aml)


Bin brown bwyd (22 litr)

Bin_brown_canolig_200x160

  • hyd at 2 fin bwyd


Cadi cegin

Bin_brown_bach_200x160

  • Cadi cegin (5 litr) er mwyn dal gwastraff bwyd yn y gegin.
  • Cyflenwad blwyddyn o fagiau gwastraff bwyd er mwyn cadw’r cadi cegin yn lân. Bydd angen gwagio cynnwys y cadi cegin i mewn i’r bin bwyd 22 litr er mwyn ei gasglu. Ni ddylech roi’r cadi cegin allan i’w gasglu. 
  • I gael mwy o fagiau gwastraff bwyd clymwch y label oren sydd tu fewn i'r rolyn bagiau o gwmpas handlen eich bin gwastraff bwyd pan fyddwch yn ei roi allan i'w wagio. (Mae'r label oren yng nghanol y rolyn bagiau a byddwch yn ei weld pan fydd tua 10 bag ar ôl yn y rolyn).
  • Os nad ydych chi wedi derbyn eich rolyn bagiau ar ôl rhoi'r label oren allan, gallwch hefyd archebu mwy ar y dudalen hon a mae cyflenwad o'r bagiau ar gael yn eich Siop Gwynedd lleol.



Bin brown gwastraff gardd (neu fagiau gwastraff gardd)

Bin_brown_mawr_200x160

  • Gall pob cartref dderbyn:
    • Hyd at 4 bin brown mawr – gwastraff gardd (240 litr)
      Neu
    • cyflenwad blwyddyn o fagiau gwastraff gardd

NODER! Bellach mae'n rhaid talu ffi blynyddol am gasgliad gwastraff gardd (bin brown). Rhagor o wybodaeth ac archebu casgliad.

 

Bin olwyn gwyrdd (neu fagiau bin du)

Bin_gwyrdd_200x160

  • Gall pob cartref dderbyn UN o'r canlynol:
    • 1 bin gwyrdd mawr (240 litr) neu
    • 1 bin gwyrdd bach (140 litr)
  • Mae rhai cartrefi sydd heb fin olwyn gwyrdd yn gymwys i dderbyn cyflenwad o fagiau bin du. I archebu, ffoniwch 01766 771000.
  • Mae’n bosib archebu sach hesian er mwyn gwarchod y bagiau bin du rhag cael eu rhwygo gan anifeiliaid (dim ond os ydych yn defnyddio bagiau bin du y cewch archebu sach hesian)
  • Os oes mwy na 7 person yn byw mewn eiddo, mae’n bosib gwneud cais am fin gwyrdd maint masnachol (360 litr): Cysylltwch â ni.


Symud tŷ?

Os ydych yn symud tŷ, gadewch y biniau/bocsys yn y tŷ.

Os nad oes biniau/bocsys yn y tŷ newydd, defnyddiwch y ffurflen Archebu bin / offer newydd (bydd angen i chi greu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod) neu ffoniwch 01766 771000 i wneud cais am rai newydd.

 

Am wybodaeth am pa eitemau y gellir eu rhoi ym mha fin, a gweld yr amserlen casglu, ewch i’r tudalennau gwybodaeth biniau ac ailgylchu.