Graeanu a biniau halen

I roi gwybod am broblem rhew neu eira ar y ffordd cysylltwch â ni:

Cysylltu â ni ar-lein - rhew neu eira

neu mewn argyfwng, ffoniwch 01766 771000.

Graeanu priffyrdd

Pan fydd rhagolygon rhew neu eira, rydym yn graeanu ein prif ffyrdd (sef ffyrdd mae bysiau yn teithio arnynt a ffyrdd at ysbytai).

Map llwybrau graeanu blaenoriaeth cyntaf 

Pan ydym yn disgwyl rhew caled, neu os bydd eira wedi disgyn, bydd ffyrdd eraill yn derbyn triniaeth ar ôl sicrhau bod y Ffyrdd Blaenoriaeth Cyntaf yn glir.

Gwybodaeth teithio


Graeanu palmentydd

Nid ydym yn graeanu palmentydd cyn iddi rewi. Byddant yn cael eu trin mor fuan â phosib a phan fo adnoddau yn caniatáu. Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i ganolfannau siopa prysur, mynediad i ysbytai, ysgolion, colegau, canolfannau iechyd a sefydliadau gofal.

 

Biniau Halen

Mae’r biniau halen fel arfer wedi eu gosod ar ffyrdd cefn ger lleoliadau peryglus fel elltydd serth. Ni ddylech ddefnyddio yr halen ar ddreif nac ar lwybrau preifat. Nid ydym yn cyflenwi halen i leoliadau eraill fel ysgolion, swyddfeydd neu feysydd parcio. 

I roid gwybod i ni am fin halen sydd angen ei ail-lenwi, neu fin halen sydd wedi torri, cysylltwch â ni:

Cysylltu â ni ar-lein - biniau halen

Os am wneud cais i osod bin halen mewn lleoliad newydd cysylltwch â’ch cyngor cymuned

 


Rhew ac Eira

Am wybodaeth am wasanaethau'r Cyngor yn ystod tywydd garw, ewch i:

Tywydd garw - gwybodaeth am wasanaethau'r Cyngor