Cymorth i gael gwaith

Mae sawl cynllun ar gael i helpu pobl ddod o hyd i waith yng Ngwynedd.

Mae’r cynllun OPUS yn cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio helpu pobl sy'n ddi-waith, i ddod dros y rhwystrau sydd yn eu hatal rhag dod o hyd waith. 

OPUS - Sut gallai Opus eich helpu chi:

Gall OPUS eich helpu os ydych yn: 

  • ddi-waith ers 12 mis neu fwy
  • dros 25
  • ddim mewn hyfforddiant
  • ddim mewn addysg
  • yn byw yng Ngwynedd, Conwy, Sir Ddinbych neu Sir Fôn

Gall OPUS eich helpu trwy:

  • ddatblygu eich hyder
  • gynnig cyfleoedd hyfforddiant i wella sgiliau
  • chwilio am waith gwirfoddol i gael profiad gwaith ymarferol
  • greu CV
  • ddatblygu sgiliau cyfweliad
  • chwilio am waith
  • costau teithio
  • dillad (cyfweliadau/ hyfforddiant/ swydd)
  • gwersi TG sylfaenol
  • gwersi Cymraeg
  • modiwlau hyder/ cymdeithasol
  • hyfforddiant penodol

 

Mwy o wybodaeth:

Cysylltu â ni:

 

Mae'r cynllun Cymunedau Am Waith wedi ei sefydlu yn benodol ar gyfer pobl ifanc mewn ardaloedd penodol i'w helpu i baratoi ar gyfer y byd gwaith:

Cymunedau Am Waith - Ydw i'n gymwys?

Mae'r rhaglen yn targedu oedolion di-waith tymor hir, oedolion economaidd anweithgar, a phobl 16-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth addysg neu hyfforddiant, sydd yn byw yn:

  • Wardiau Peblig a Cadnant yng Nghaernarfon
  • Maesgeirchen ym Mangor
  • Talysarn Fron a Carmel

Gall Cymunedau am Waith eich helpu trwy:

  • gynnig arweiniad i ddarganfod hyfforddiant neu waith
  • rhoi cyngor am arian i gael grantiau a budd-daliadau
  • chwilio am swyddi 

Mwy o wybodaeth:

Cysylltu â ni:

 

Gwybodaeth bellach:

(Gwefan Llywodraeth Cymru)