Cynllun Darparu Gwasanaeth: Diogelwch bwyd, hylendid a safonau bwyd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fel rhan o gytundeb fframwaith diogelwch bwyd cenedlaethol yn gofyn i bob awdurdod lleol baratoi cynllun darparu gwasanaeth blynyddol.

Mae’r cynllun yn adlewyrchu’r gwaith y mae'r ASB yn gofyn i awdurdodau bwyd ei wneud dan ofynion y Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a'r cytundeb fframwaith ar orfodaeth sydd yn ei le ar gyfer awdurdodau lleol.

Mae’r cynllun gwasanaeth hwn yn manylu gwaith diogelwch bwyd, safonau bwyd a hylendid bwyd (cynhyrchwyr cynradd) sydd yn mynd i gael ei gyflawni yn ystod 2016-17 gan Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd

Gweld Cynllun Darparu Gwasanaeth: Diogelwch bwyd, hylendid a safonau bwyd 2016-17