Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai

Mae’n ofynnol i bob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru ymgymryd â Chyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai (JHLAS) yn flynyddol er mwyn monitro’r cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai yn eu hardaloedd hwy. 

Nodai Polisi Cynllunio Cymru bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio lleol sicrhau bod digon o dir ar gael, neu y bydd digon o dir ar gael, ar gyfer cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai. 

Ceir canllawiau ar gyfer cyfrifo’r cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 1, “Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai”, Llywodraeth Cymru.

 

Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai 2019

Yn dilyn mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn yng Ngorffennaf 2017, mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yn ymgymryd ag un Cydastudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai ar gyfer ardal y Cynllun h.y. Ardaloedd Cynllunio Gwynedd ac Ynys Môn.   

Mae’r adroddiad Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai 2019 yn nodi’r sefyllfa mewn perthynas â’r cyflenwad tir ar gyfer tai yn ardal Awdurdodau Cynllunio Gwynedd ac Ynys Môn (Gwynedd gan eithrio ardal Parc Cenedlaethol Eryri). Mae’r adroddiad hwn yn disodli Adroddiad Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai 2018. 

 

Archif