Beth ydym yn ei wneud?

Gwasanaeth Polisi Cynllunio Gwynedd

Mae’r Gwasanaeth Polisi Cynllunio yn gyfrifol am gynhyrchu polisïau cynllunio ac arweiniad defnydd tir a ddefnyddir er mwyn gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ac felly tywys datblygiadau'r dyfodol yn yr ardal. 

Bydd y Gwasanaeth yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Awdurdod Cynllunio Gwynedd. Nes y bydd hwnnw wedi ei fabwysiadu, mae’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn parhau i osod fframwaith bolisi ar gyfer yr Ardal Gynllunio Gwynedd. 

Dylai pob ymholiad polisi cynllunio mewn perthynas ag ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd gael ei gyfeirio at y Gwasanaeth Polisi Cynllunio.


Cysylltu â ni