Cwyn ffurfiol / Canmoliaeth

Canmoliaeth

Rydym wastad yn gwerthfawrogi derbyn canmoliaeth am rywbeth mae’r Cyngor wedi ei wneud yn dda. Mae canmoliaeth yn helpu i godi morâl staff, gan fod pawb yn hoffi cael eu gwerthfawrogi.  Bydd unrhyw ganmoliaeth  yn cael ei anfon ymlaen at y gwasanaeth perthnasol bob tro.

Cyflwynwch eich canmoliaeth yma.

Ar y llaw arall, o bryd i’w gilydd, bydd pethau’n mynd o’i le, ac rydym yr un mor awyddus i glywed am hynny hefyd.  Mae cwynion yn ein helpu i wneud yn siŵr eich bod yn derbyn y gwasanaeth y dylech, ac i wella ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.


Cwyn Ffurfiol

Gallwch gyflwyno cwyn i’r Cyngor os ydych yn anhapus gyda safon y gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn gan y Cyngor, neu os ydych yn anhapus gyda rhywbeth y mae’r Cyngor, neu aelod o staff, wedi ei wneud neu wedi methu ei wneud.

Gallwch lenwi ffurflenni ar-lein bellach i roi gwybod am:

Os yw eich cwyn yn ymwneud ag un o’r meysydd penodol isod, defnyddiwch y cysylltau canlynol:

Y peth cyntaf y dylech ei wneud os ydych yn anhapus gyda’r gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn yw cysylltu â’r swyddog sy’n darparu’r gwasanaeth i chi gan egluro’r hyn sy’n eich poeni a’r hyn y credwch y dylai’r Cyngor wneud. Os na all yr aelod staff helpu bydd yn egluro pam, a gallwch ofyn am ymchwiliad ffurfiol.

  •  Ffurflen cwyno/ adrodd pryder
  • Ffonio:  01766 771000 
  • Post: Swyddog Gwella Gwasanaeth, Cefnogaeth Gorfforaethol, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH 
  • Gofynnwch i’r sawl rydych wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn barod am gopi o’r Ffurflen Cwyno / Adrodd pryder

Os ydych yn cyflwyno cwyn/pryder ffurfiol, dyma fydd yn digwydd:  

  • Byddwn yn cydnabod eich pryder yn ffurfiol o fewn 5 diwrnod gwaith
  • Byddwn yn ceisio datrys pryderon mor gyflym â phosibl a byddwn yn disgwyl delio â'r mwyafrif helaeth o fewn 20 diwrnod gwaith.  Os yw eich cwyn yn fwy cymhleth, byddwn yn rhoi gwybod i chi o fewn y cyfnod hwn pam y credwn y gallai gymryd mwy o amser i ymchwilio
  • Byddwn yn eich diweddaru yn rheolaidd am unrhyw ddatblygiadau 

Os na fyddwn yn llwyddo i ddatrys eich cwyn, gallwch gwyno i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Mae'r Ombwdsmon yn annibynnol ar bob corff y llywodraeth a gall ymchwilio i'ch cwyn os ydych yn credu eich bod chi'n bersonol, neu'r sawl yr ydych yn cwyno ar ei ran wedi cael eich trin/ei drin yn annheg. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt yr Ombwdsmon ar eu gwefan.

Mae sefydliadau eraill sy’n rhoi sylw i gwynion penodol hefyd - er enghraifft, Comisiynydd yr Iaith Gymraeg ynghylch gwasanaethau yn y Gymraeg.  Gallwn eich cynghori am sefydliadau o'r fath. 

Fe hoffwn ni hefyd gynnig copi hawdd ei ddarllen o'r Polisi.

Os ydych o dan 18 oed ac angen cymorth i gyflwyno eich cwyn neu bryder, gall y sefydliadau canlynol eich helpu:


Mwy o wybodaeth

Gweld polisi pryderon a chwynion Cyngor Gwynedd

Neu gweld Copi Hawdd ei Ddarllen o'r polisi

E-bost: cwynion@gwynedd.llyw.cymru

Ffôn: 01766 771000

 

Datganiad preifatrwydd