Taflenni Penderfyniad (aelodau unigol) 2015-16

Mae'r hawl i wneud penderfyniadau ar gyfer gwasanaeth neu faes unigol yn cael ei ddirprwyo i’r aelod cabinet sydd wedi ei awdurdodi gan y Cyngor i fod â chyfrifoldeb dros y gwasanaeth neu'r maes penodol hwnnw.

Gweithredir y pŵer dirprwyedig drwy arwyddo taflen benderfyniad fydd yn cael ei chyhoeddi sy'n nodi:

  • y penderfyniad
  • rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad
  • unrhyw ystyriaethau neu ddadleuon eraill, yn cynnwys goblygiadau polisi'r penderfyniad
  • sylwadau’r swyddogion statudol
  • sylwadau aelodau lleol pan fo penderfyniad yn cael effaith benodol ar etholaeth unigol.

Bydd taflenni penderfyniad 2015-16 yn cael eu cyhoeddi yma pan maent yn cael eu cyhoeddi.