Lwfansau i Gynghorwyr

Ydi cynghorwyr yn cael eu talu?

Ydi. Mae gan holl aelodau etholedig awdurdodau lleol Cymru hawl i gael cyflog blynyddol sylfaenol. Mae aelodau sydd â chyfrifoldebau ychwanegol, fel aelod gweithredol neu gadeirydd pwyllgor, yn derbyn cyflogau uwch. Mae treth incwm yn cael ei godi ar y taliadau hynny ac fe gaiff treuliau rhesymol eu talu hefyd.(Cyhoeddir manylion y taliadau sy'n cael eu gwneud i aelodau unigol ar waelod y dudalen hon.)

 

Pwy sy’n penderfynu ar y tâl?

Mae cyflogau a threuliau aelodau'n cael eu pennu gan gorff annibynnol, sef Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.  Mae’r Panel hwn yn cyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi'r cyflogau a’r treuliau sydd i’w talu i gynghorwyr.

 

Oes cefnogaeth arbennig ar gael?

Oes. O dan ddeddfwriaeth mae'n rhaid i awdurdodau ddarparu ar gyfer aelodau gydag anghenion cymorth penodol, er mwyn eu galluogi i gyflawni eu dyletswyddau fel cynghorwyr. Gall aelodau etholedig hefyd hawlio ad-daliad costau gofal i ddarparu gofal i ddibynyddion pan fyddant yn ymgymryd â'u dyletswyddau.


Pam bod aelodau yn cael eu talu?

Mae Cynghorwyr yn cael eu talu er mwyn rhoi cyfle i bawb wasanaethu fel aelod etholedig. Mae Cynghorwyr yn cynrychioli buddiannau etholwyr ac yn mynychu cyfarfodydd. Mae hyn yn cymryd llawer o amser, a gallai olygu colled ariannol. Heb dâl, yr unig bobl allai ymgeisio i fod yn gynghorwyr fyddai’r rhai sydd ddim yn gweithio neu sydd â llawer o amser rhydd.

 

Faint o gyflogau a threuliau mae aelodau'n eu derbyn?

 


Cyflogau a threuliau mae aelodau wedi'u derbyn:

Mae’r uchod yn cyd-fynd â phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. 


Beth mae fy aelod yn ei wneud?

Mae gan aelodau unigol eu trefniadau eu hunain i gyfathrebu gyda’u hetholwyr. Mae nifer o aelodau Gwynedd yn manteisio ar drefn y Cyngor o baratoi adroddiad blynyddol ar yr hyn y maent wedi ei wneud mewn blwyddyn.

 

Am fwy o wybodaeth..

Os oes gennych ymholiad neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni:

E-bost: GwasanaethDemocratiaeth@gwynedd.llyw.cymru