Amgylchedd

Pennaeth yr Adran:

Dafydd Wyn Williams
Cyngor Gwynedd
Swyddfa'r Cyngor
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

Rhif ffôn: (01286) 679371

E-bost: DafyddWynWilliams@gwynedd.llyw.cymru

Mae'r Adran yn cynnwys:

 

Uned Polisi Cynllunio

Mae’r Uned yn gyfrifol am:

  • gynhyrchu Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer ardal awdurdod cynllunio lleol Cyngor Gwynedd
  • monitro Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd
  • cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol
  • darparu cyngor arbenigol (gan gynnwys cynghori ar geisiadau a chynigion cynllunio, materion gorfodaeth, apeliadau) ac ar ymatebion i ymgynghoriadau ar faterion Polisi Cynllunio i’r awdurdod, sefydliadau allanol ac i’r cyhoedd yn gyffredinol
  • cynnal arolygon blynyddol o Argaeledd Tir Tai
  • cyfrannu at ddatblygu Briffiau Datblygu a Strategaethau Datblygu

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth ewch i'r adran Polisi Cynllunio neu cysylltwch â ni:

Uned Cynllunio Mwynau a Gwastraff

Mae’r Uned yn gyfrifol am:

  • gynnig cyngor ar faterion cynllunio mwynau a gwastraff, e.e. gweithgareddau chwarelu, datblygiadau rheoli gwastraff fel cyfleusterau ailgylchu, compostio ac ati
  • ymdrin â cheisiadau cynllunio ar gyfer gweithgareddau cloddio ac ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff. Gallwch gyflwyno cais drwy lawrlwytho'r ffurflen Cyflwyno cais cynllunio mwynau a gwastraff a'i phostio i'r cyfeiriad sydd ar y ffurflen
  • monitro safleoedd i sicrhau cydymffurfiaeth gydag amodau
  • ymchwilio i gwynion lle honnir bod rheolau cynllunio yn cael eu torri. Gweld polisi gorfodaeth Gwynedd
  • rhoi mewnbwn i’r Cynllun Datblygu Lleol ar faterion polisi cynllunio mwynau a gwastraff
  • rhoi mewnbwn i faterion cynllunio mwynau a gwastraff rhanbarthol a chenedlaethol

Am ragor o wybodaeth am y drefn gynllunio yng Ngwynedd, ewch i'r tudalennau Cynllunio.


Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â ni:

  • Ar-lein: Ymholiad cyffredinol am gynllunio
    Y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif. Bydd eich cyfrif yn eich galluogi i anfon ymholiad i ni, cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'ch ymholiad a'n galluogi ni i anfon ymateb i chi. 
  • Ffôn: 01766 771000

Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae’r Uned yn gyfrifol am:

  • Hawliau Tramwy Cyhoeddus - llwybrau a thraciau y gallwch eu defnyddio i groesi tir preifat
  • cynnal a chadw rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus Gwynedd
  • sicrhau nad oes rhwystr ar unrhyw lwybr troed cyhoeddus, llwybr ceffylau, cilffordd gyfyngedig na chilffordd

Am wybodaeth am y gwasanaethau mae'r Uned Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn eu darparu, ewch i'r adran Hawliau Tramwy.


Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â ni:

Uned Gweithredu Gwledig

Mae'r Uned yn gyfrifol am:

  • gynnal a chadw 7 Gwarchodfa Natur leol yng Ngwynedd (heb gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri)
  • cynnal a chadw 5 Lôn Las - llwybrau pwrpasol ar gyfer cerdded a beicio
  • cynnal a chadw Llwybr Arfordir Llŷn a gweithredu Cynllun Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer Gwynedd
  • rheoli a gweithredu ar amrywiaeth o brosiectau amgylcheddol

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â ni:

Uned Cadwraeth

Mae'r Uned yn gyfrifol am:

  • roi cyngor arbenigol ar faterion yn ymwneud ag Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth
  • adolygu Ardaloedd Cadwraeth Gwynedd (ac eithrio Parc Cenedlaethol Eryri)
  • monitro Adeiladau Rhestredig

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â ni:

  • Ar-lein: Ymholiad cyffredinol am gynllunio
    Y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif. Bydd eich cyfrif yn eich galluogi i anfon ymholiad i ni, cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'ch ymholiad a'n galluogi ni i anfon ymateb i chi. 
  • Ffôn: 01766 771000

Uned Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn

Mae’r Uned yn gyfrifol am:

  • baratoi, gweithredu, monitro ac adolygu Cynllun Rheoli Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)
  • gweithio ar brosiectau i helpu i gynnal hunaniaeth unigryw Llŷn
  • gweinyddu Cronfa Datblygu Gynaliadwy i ddarparu grantiau prosiect i gefnogi a hyrwyddo ffordd o fyw mwy cynaliadwy

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth ewch i: www.ahne-llyn-aonb.org

Uned Bioamrywiaeth

Mae'r Uned yn gyfrifol am:
  • baratoi, gweithredu, monitro ac adolygu Cynllun Bioamrywiaeth Lleol ar gyfer ardal awdurdod cynllunio lleol Cyngor Gwynedd
  • codi ymwybyddiaeth am faterion bywyd gwyllt a bioamrywiaeth drwy gynnal digwyddiadau’n cynnwys teithiau a sgyrsiau
  • darparu cyngor arbenigol ar faterion bywyd gwyllt a bioamrywiaeth

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni:


Y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd

Rheolaeth Datblygu
Gwelliant Stryd
Gorfodaeth
Apeliadau
Ymchwiliadau Cyhoeddu
Safonau Masnach
Iechyd yr Amgylchedd
Trwyddedu e.e. tacsis/alcohol


Y Gwasanaeth Trafnidiaeth a Chefn Gwlad

Diogelwch y Ffyrdd
Llwybrau Beic
Gorfodaeth Ffyrdd
Traffig
Grant Trafnidiaeth
Cludiant Cyhoeddus
Uned Cefn Gwlad


Gwasanaeth Eiddo'r Cyngor

Uned difa pla
Uned parcio