Economi a Chymuned

Pennaeth yr Adran:

Sioned E. Williams
Cyngor Gwynedd
Swyddfa'r Cyngor
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH

Rhif ffôn: (01286) 679547

E-bostSionedEWilliams@gwynedd.llyw.cymru

 

Mae'r Adran yn cynnwys: 

Yn ogystal â chefnogi busnesau yn uniongyrchol, mae’r Adran yn cydweithio gyda phartneriaid ar draws rhanbarth Gogledd a Gorllewin Cymru er mwyn targedu adnoddau i fuddsoddi mewn pecyn o brosiectau isadeiledd a sgiliau i fusnesau ffynnu i’r dyfodol.

Mae 15,785 o fentrau yng Ngwynedd. Mae’r Adran yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ymarferol i’w helpu i sefydlu a datblygu er mwyn cynnal a chreu swyddi. Mae’r Adran hefyd yn darparu 87 o unedau gwaith ar hyd a lled y sir i alluogi busnesau fod yn gystadleuol.

Mae’r diwydiant twristiaeth yn gyflogwr allweddol yng Ngwynedd. Gyda gwerth economaidd o bron i £1biliwn, mae dros 15,000 o bobl yn gweithio yn y maes.  Rydym yn helpu’r diwydiant i ddenu pobl drwy’r flwyddyn sy’n debygol o wario mwy yn lleol, megis ymwelwyr sy’n mwynhau’r awyr agored ac ymwelwyr sy’n ymddiddori yn hanes a diwylliant arbennig Gwynedd.  Rydym hefyd yn cefnogi trefnwyr digwyddiadau i greu bwrlwm mewn cymunedau ar draws y sir.

Gan fod tirwedd ac amgylchedd naturiol Gwynedd mor bwysig i ffyniant y sir, mae’r Adran yn ceisio sicrhau adnoddau diogel o ansawdd yn ein parciau gwledig, harbyrau, marinas ac ar draethau Gwynedd er mwyn creu atyniadau hamdden i bobl leol ac ymwelwyr. Mae’r Adran yn rheoli 301km o arfordir Gwynedd gan ganolbwyntio ar 9 o draethau Banner Las, 4 o harbyrau a 2 hafan gan gynnwys Hafan Pwllheli sy’n cynnig llety i 700 o gychod. Mae’r Adran hefyd yn rheoli Parciau Gwledig yng Nglynllifon a Padarn.

Mae’r Adran yn gyfrifol am rwydwaith o 12 o ganolfannau ar draws Gwynedd sy’n denu 1.3 miliwn o ymweliadau pob blwyddyn. Mae’r ddarpariaeth yma yn galluogi trigolion Gwynedd fod yn actif mewn lleoliadau diogel sydd yn cynnig ystod o weithgareddau ar gyfer pob oedran. Trosglwyddwyd rheolaeth y Canolfannau i Gwmni Byw’n Iach Cyf ym mis Ebrill 2019, am ragor o fanylion www.bywniach.cymru.

Mae’r Adran yn trefnu a chynnal ystod o weithgareddau chwaraeon o fewn ysgolion, y gymuned ac yn yr awyr agored er mwyn ysbrydoli plant a phobl ifanc i gymryd rhan a mwynhau chwaraeon. Mae’r Adran hefyd yn cefnogi trigolion Gwynedd i wella cyflwr eu iechyd drwy’r Tim Cyfeirio i Ymarfer. Dyma wasanaeth arbenigol gydag ystod o weithgareddau i helpu i leihau effaith cyflyrau sy’n atal trigolion Gwynedd rhag ymarfer a gwella eu hiechyd.

Mae’n bwysig bod Grwpiau Gwirfoddol a Mentrau lleol yn cael eu cefnogi i ymateb i gyfleon ac anghenion lleol. Mae gan y Cyngor rwydwaith o swyddogion adfywio bro a ‘CIST’ o grantiau cymunedol i gefnogi prosiectau.  Byddwn yn targedu rhai cymunedau yn fwy na’u gilydd gan roi sylw penodol i gynllunio cefnogaeth i ardaloedd  gyda’r anghenion mwyaf.

Mae’r Cyngor yn darparu gwasanaeth mewn 9 prif lyfrgell, 4 llyfrgell gymunedol a 3 dolen ar draws y sir. Mae’n bwysig i bobl Gwynedd eu bod yn gallu benthyg llyfrau, e-lyfrau, llyfrau llafar neu DVD o’u dewis. Ond nid yw holl drigolion Gwynedd yn gallu cyrraedd eu llyfrgell leol felly mae’r Cyngor hefyd yn darparu llyfrgell deithiol sy’n ymweld â 150 o bentrefi,  pob ysgol, a gwasanaeth cludo i’r cartref i bobl sy’n gaeth i’w tai.

Mae pobl Gwynedd yn defnyddio’r llyfrgelloedd ar gyfer llawer iawn mwy na dim ond benthyg llyfrau. Maent yn llefydd croesawgar i bobl eu defnyddio ar gyfer amryw o weithgareddau - darllen a dysgu, mynediad at wybodaeth am faterion megis iechyd a lles, chwilio am waith, gwasanaethau lleol, yn ogystal i Gwynedd Ni sydd yn cynnwys gwybodaeth benodol i deuluoedd am wasanaethau a gweithgareddau i blant. Mae trigolion Gwynedd hefyd yn gallu dod i ddefnyddio un o’r 110 o gyfrifiaduron, neu'r Wi-Fi, sydd yn y llyfrgelloedd yn rhad ac am ddim.

Mae’r Gwasanaeth yn rhedeg dwy amgueddfa yng Ngwynedd ac yn gyfrifol am edrych ar ôl casgliadau a chreu arddangosfeydd yn y ddwy, sef Storiel ac Amgueddfa Lloyd George.

Mae llawer o’n gwaith yn y maes celfyddydau cymunedol yn targedu prosiectau iechyd, lles, addysg a thaclo unigrwydd. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am ddyrannu grantiau celfyddydol er mwyn cefnogi safon a chyfleoedd celfyddydol i bawb.

Drwy Neuadd Dwyfor, Pwllheli a Neuadd Buddug, Y Bala mae’r Gwasanaeth yn cefnogi rhaglenni celfyddydol amrywiol er mwyn  sicrhau fod y celfyddydau’n fyw yn ein cymunedau a bod mynediad at y celfyddydau yn ein hardaloedd gwledig.

Ein nod fydd parhau i gyfoethogi bywydau trigolion Gwynedd trwy hyrwyddo dealltwriaeth o’n hetifeddiaeth a’n diwylliant unigryw, ond bydd rhaid i ni weithio’n wahanol gyda phartneriaid i wneud yn siŵr fod hyn yn llwyddo.

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb statudol i warchod ein cofnodion cyhoeddus a gwneud yn siwr bod gan bobl fynediad atynt. Rydym yn gwneud hyn trwy ddau archifdy yng Ngwynedd - Archifdy Caernarfon ac Archifdy Meirionnydd yn Nolgellau.

 Mae gan Archifdai Gwynedd ystod eang o ddogfennau, lluniau, mapiau a phapurau newydd gyda’r ddogfen hynaf yn dyddio’n ôl i 1176. Ceir amrediad o gasgliadau cyhoeddus, swyddogol a phreifat sy’n adlewyrchu diwylliant a threftadaeth cymunedau Gwynedd.  Mae’r Archifdai yn darparu sesiynau blasu, a chyrsiau hanes teulu ac yn cydweithio gydag ysgolion cynradd Gwynedd.