Maes carafanau a gwersylla

Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol i weithredu safle carafanau a gwersylla.

Gellir rhoi amodau ar y drwydded yn ymwneud ag unrhyw un o’r isod:

  • cyfyngu pryd y gall carafanau fod ar y safle i bobl breswylio ynddyn nhw neu gyfyngu ar nifer y carafanau a all fod ar y safle ar unrhyw un adeg
  • rheoli’r mathau o garafanau ar y safle 
  • rheoli lle y lleolir y carafanau neu reoli’r defnydd o strwythurau eraill a cherbydau, yn cynnwys pebyll
  • sicrhau cyflwyno camau i wella golwg y tir, yn cynnwys plannu / ailblannu coed a llwyni
  • mesurau diogelwch tân ac ymladd tân 
  • sicrhau bod cyfleusterau toiledau a chyfleusterau, gwasanaethau ac offer eraill yn cael eu darparu a’u cynnal a’u cadw.

Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i’r ymgeisydd fod â’r hawl i ddefnyddio’r tir fel maes carafanau.

Ni roddir trwydded i ymgeiswyr y cafodd trwydded safle carafanau o’r fath ei thynnu oddi arnynt o fewn tair blynedd i’r cais cyfredol.

Proses gwerthuso'r cais
Cyflwynir cais am drwydded safle i’r awdurdod lleol lle mae’r tir.

Rhaid i geisiadau fod yn ysgrifenedig, a dylai nodi’r darn tir mae’r cais yn berthnasol iddo ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol. 

Gwneud cais
I wneud cais safle carafanau a gwersylla yng Ngwynedd, neu i wneud newid eich trwydded, ffoniwch 01766 771000 neu defnyddiwch y ffurflenni canlynol: 

Gallwch anfon y ffurflen wedi'i chwblhau at:

  • E-bost: trwyddedu@gwynedd.llyw.cymru
  • Cyfeiriad:  Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu, Gwasanaeth Rheoli Llygredd a Thrwyddedu, Gwarchod y Cyhoedd, Adran Amgylchedd, Swyddfa Ardal Dwyfor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA

Deddfau perthnasol
Deddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 (cyswllt allanol – Saesneg yn unig)
Deddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (cyswllt allanol – Saesneg yn unig)


A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae'n ofynnol i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.


Gweithredu pan fydd cais yn methu
Fe’ch cynghorir i drafod unrhyw broblem â’r awdurdod lleol yn gyntaf.

Os gwrthodir cais deiliad trwydded i newid amod gall gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o dderbyn hysbysiad ysgrifenedig o wrthod y cais a rhaid cyflwyno hysbysiad o’r apêl i’r awdurdod lleol.


Camau gan ddeiliad trwydded
Fe’ch cynghorir i drafod unrhyw broblem â’r awdurdod lleol yn gyntaf.

Os yw deiliad trwydded yn dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm â thrwydded caiff gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o gyflwyno’r drwydded.

Gall yr awdurdod lleol addasu’r amodau ar unrhyw adeg, ond rhaid rhoi cyfle i ddeiliad y drwydded gyflwyno sylwadau am y newidiadau arfaethedig.  Os yw deiliad trwydded yn anghytuno â’r newidiadau caiff gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol. Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o dderbyn hysbysiad ysgrifenedig am y newid, a rhaid cyflwyno hysbysiad o’r apêl i’r awdurdod lleol.


Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).


Cymdeithasau masnach
Association of Caravan and Camping Exempted Organisations (ACCEO)
British Holiday & Home Parks Association (BH&HPA)
British Resorts and Destinations Association
Caravan Industry Training (CITO)
Federation of Tour Operators (FTO)
Group Travel Organisers Association (GTOA)
Hotel Marketing Association
National Caravan Council (NCC)