Sgaffald

Mae’n rhaid cael trwydded cyn gosod sgaffald/hordin a/neu adeiladwaith arall ar briffordd gyhoeddus.  Mae hyn yn cynnwys codi sgaffald/ hordin a/neu adeiladwaith arall ar ffordd gyhoeddus, balmant, llwybr cerdded, ymyl gwair neu stryd gefn.  Y Cyngor sydd yn gyfrifol am roi y trwyddedau hyn.

 

Sut mae gwneud cais?

Dim ond cwmnïau gosod sgaffald, hordin a/neu adeiladwaith arall sydd yn gallu gwneud cais am drwydded. Nid oes modd i unigolion wneud cais. 

Os ydych angen gosod sgaffald, hordin a/neu adeiladwaith arall cysylltwch â chwmni sgaffald, hordin a/neu adeiladwaith arall o’ch dewis. Bydd y cwmni yn gwneud cais am drwydded ar eich rhan.

Dylai cwmnïau sgaffald, hordin a/neu adeiladwaith arall gwblhau’r ffurflen gais isod. 

Gwneud cais ar-lein

Bydd angen cwblhau ffurflen gais 5 diwrnod gwaith cyn y dyddiad rydych eisiau i'r drwydded gychwyn.

 

Ffioedd

£110 hyd at 10 metr fesul sgaffald, hordin neu adeiladwaith arall.

£128 rhwng 10 a 50 metr fesul sgaffald, hordin neu adeiladwaith arall.

£145 dros 50 metr fesul sgaffald, hordin neu adeiladwaith arall.

Os bydd y cais yn cael ei ganiatáu  bydd y drwydded yn ddilys am 3 mis.
Er mwyn cael estyniad i'r drwydded, bydd yn rhaid adnewyddu cyn i’r drwydded ddod i ben.

 

 

Ffioedd adnewyddu

£110 hyd at 10 metr fesul sgaffald, hordin neu adeiladwaith arall pob mis dilynol.

£128 rhwng 10 a 50 metr fesul sgaffald, hordin neu adeiladwaith arall pob mis dilynol.

£145 dros 50 metr fesul sgaffald, hordin neu adeiladwaith arall pob mis dilynol.

 Nid oes modd adnewyddu eich cais ar-lein. Cysylltwch â ni er mwyn adnewyddu eich cais

  • 01766 771 000

Noder: Ni fydd ad-daliad os fydd cais yn aflwyddiannus.

 

Eisiau talu dirwy?

Os rydych wedi derbyn dirwy am beidio cael trwydded sgaffald, hordin a/neu adeiladwaith arall cysylltwch â ni i dalu'r ddirwy:

  • 01766 771 000

 

Rhagor o wybodaeth