Stondin marchnad

Er mwyn rhedeg stondin marchnad, rhaid i chi gael caniatâd yr awdurdod lleol.

Meini prawf cymhwysedd
Rhaid i ymgeiswyr fod ag yswiriant perthnasol a digonol.


Proses gwerthuso’r cais

Masnachwyr achlysurol – Nid yw masnachwyr achlysurol yn cael eu trwyddedu ar gyfer marchnad benodol ond gallant fynychu ar ddydd y farchnad a chael unrhyw le sydd ar gael. Mae hyn ar yr amod nad yw cynnyrch y masnachwr yn rhy debyg i gynnyrch masnachwr parhaol. Gyda Goruchwyliwr y Farchnad y mae’r cyfrifoldeb am benderfynu a yw’r masnachwr yn addas ai peidio.

Masnachwyr parhaol – I wneud cais am stondin marchnad barhaol rhaid i chi gychwyn fel masnachwr achlysurol. Unwaith y daw lle parhaol ar gael, a’ch bod ar frig y rhestr masnachwyr achlysurol, ac nad yw’r hyn rydych yn ei werthu ar gael yn ddigonol yn barod, byddwch yn cael cynnig y lle ac yn cael trwydded yn syth os byddwch yn derbyn.

Gwneud cais
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.

Deddfau perthnasol
Deddf Cymalau Marchnadoedd a Ffeiriau 1847 (cyswllt i wefan allanol – Saesneg yn unig)

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Bydd. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu union fel pe byddai eich cais wedi ei dderbyn hyd yn oed os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod targed ar gyfer cwblhau.

Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr - trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).