Cofrestru eiddo bwyd

Mae’n rhaid i eiddo sy’n cael ei ddefnyddio gan fusnes bwyd (gan gynnwys stondinau marchnad, cerbydau danfon a strwythurau symudol eraill) gael eu cofrestru. Mae’n rhaid gwneud hyn o leiaf 28 diwrnod cyn cychwyn masnachu. Nid oes ffi am hyn

Os ydych yn bwriadu agor busnes bwyd newydd, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni a chofrestru’r eiddo.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y nodiadau cofrestru eiddo bwyd

Mae hefyd yn ddyletswydd ar bob busnes bwyd i roi gwybod i ni os bydd unrhyw newid i’r busnes, neu os ydi’r busnes yn cau, a hynny o fewn 28 diwrnod i’r newid. 

 

Sut i gofrestru

Gallwch gofrestru eich busnes ar-lein:

Cofrestru busnes bwyd ar-lein (food.gov.uk)

Nid oes tâl am gofrestru bwyd ac ni ellir gwrthod cais cofrestru.

 

Ar ôl cyflwyno ffurflen gofrestru

Unwaith rydych wedi cwblhau a dychwelyd eich ffurflen, bydd eich manylion yn cael eu rhoi yn ein cronfa ddata. Byddwn yn cadw cofnod o holl safleoedd bwyd sydd wedi cofrestru gyda ni.

Cydnabyddir eich ffurflen gofrestru a bydd aelod o’n Tîm Diogelwch Bwyd yn ymweld â’ch eiddo i gynnal archwiliad hylendid bwyd.

Rhaid i chi roi gwybod i ni os oes unrhyw newid i’ch busnes bwyd, megis gweithredwr busnes newydd neu os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.

 

Cysylltu â’n Tîm Diogelwch Bwyd

Gallwch gysylltu â’n Tîm Diogelwch Bwyd am ragor o wybodaeth am gofrestru safle bwyd drwy anfon e-bost at bwyd@gwynedd.llyw.cymru neu drwy ffonio 01766 771 000

 

Rhagor o wybodaeth

Os ydych yn rhedeg busnes bwyd rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw eiddo a ddefnyddiwch i storio, gwerthu, dosbarthu neu baratoi bwyd. Mae eiddo bwyd yn cynnwys bwytai, gwestai, caffis, siopau, archfarchnadoedd, cantîns staff, ceginau swyddfeydd, warysau, tai llety, cerbydau danfon, trolis bwffe ar drenau, stondinau marchnad a rhai eraill, faniau cŵn poeth a hufen ia, ac ati.

Os ydych yn defnyddio cerbydau ar gyfer eich busnes bwyd mewn cysylltiad ag eiddo parhaol fel siop neu warws, dim ond dweud wrthym faint o gerbydau sydd gennych sy’n rhaid i chi. Does dim angen cofrestru pob cerbyd ar wahân. Os oes gennych un cerbyd neu fwy ond dim eiddo parhaol, rhaid i chi ddweud wrthym yn lle y cânt eu cadw fel arfer.

Gall busnesau bwyd gynnwys darparwyr cartref, clybiau, stondinau marchnad, gwarchodwyr plant, cerbydau ac eiddo domestig os defnyddir hwy i storio, trafod neu baratoi bwyd. Mae bwyd yn cynnwys diod, fferins a bwyd mewn pecynnau.  Mae busnes bwyd yn unrhyw fenter – dim ots a yw’n gwneud elw.


Cymeradwyo eiddo bwyd

Gall fod yn rhaid i rai sefydliadau gael eu cymeradwyo dan 853/2004, sy’n edrych yn benodol ar gynnyrch o anifeiliaid. Rhagor o wybodaeth am gymeradwyo eiddo bwyd


Deddfau perthnasol

178/2002: Egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfreithiau bwyd
852/2004: Ynghylch hylendid bwyd
853/2004: Rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd o anifeiliaid

 

Cofrestr gyhoeddus

Gweld cofrestr cyhoeddus o eiddo bwyd wedi’i cofrestru yng Ngwynedd



Gwefannau defnyddiol

The Food Standards Agency

The Chartered Institute of Environmental Health
Food and Drink Federation
DEFRA
Drinking Water Inspectorate
Trading Standards Institute