Sŵ - trwydded

I redeg sŵ yn Lloegr, yr Alban neu Gymru, rhaid i chi dderbyn trwydded gan yr awdurdod lleol.

Efallai y bydd ffi yn daladwy am y drwydded ac y gosodir amodau er mwyn sicrhau y caiff y sŵ ei rhedeg yn briodol.


Meini prawf cymhwysedd
O leiaf 2 fis cyn gwneud cais am drwydded, mae'n rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno rhybudd yn ysgrifenedig (gan gynnwys trwy ddulliau electronig) i'r awdurdod lleol eu bod yn bwriadu gwneud cais. Mae'n rhaid i'r cais nodi:

  • lleoliad y sŵ
  • y math o anifeiliaid ac amcangyfrif o’r nifer ym mhob grŵp a gedwir i’w harddangos ar y safle a’r trefniadau ar gyfer eu lletya, eu cynnal a gofalu am eu lles
  • amcangyfrif o niferoedd a chategorïau'r staff sydd i’w cyflogi yn y sŵ
  • amcangyfrif o nifer yr ymwelwyr a’r cerbydau modur y darperir lle ar eu cyfer
  • amcangyfrif o nifer a lleoliad y mynedfeydd a ddarperir i’r safle
  • y modd y gweithredir y camau cadwraeth gofynnol yn y sŵ.

O leiaf 2 fis cyn cyflwyno’r cais, mae’n rhaid i’r ymgeisydd hefyd gyhoeddi rhybudd o’r bwriad hwnnw mewn un papur newydd lleol ac un papur newydd cenedlaethol ac arddangos copi o’r rhybudd hwnnw. Mae’n rhaid i’r rhybudd nodi lleoliad y sŵ a nodi bod y rhybudd cais i’r awdurdod lleol ar gael i’w archwilio yn swyddfeydd yr awdurdod lleol.

Proses gwerthuso’r cais
Pan fydd yn trafod cais, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried unrhyw ohebiaeth a dderbyniwyd gan neu ar ran:

  • yr ymgeisydd
  • prif swyddog yr heddlu yn yr ardal dan sylw
  • yr awdurdod perthnasol - sef unai'r awdurdod gorfodaeth neu’r awdurdod perthnasol dros yr ardal lle bydd y sŵ wedi ei lleoli
  • corff llywodraethol unrhyw sefydliad cenedlaethol sydd yn ymwneud â gweithredu sŵau
  • lle bydd rhan o’r sŵ wedi ei lleoli mewn ardal lle nad oes gan yr awdurdod lleol y grym i ganiatáu'r drwydded, dylid gwneud cais i’r awdurdod cynllunio dros yr ardal berthnasol (ond nid i awdurdod cynllunio sirol) neu, os bydd y rhan dan sylw wedi ei lleoli yng Nghymru, yr awdurdod cynllunio lleol dros yr ardal lle mae wedi ei lleoli
  • unrhyw unigolyn fydd yn haeru y byddai’r sŵ yn effeithio ar iechyd a diogelwch y bobl sydd yn byw yn yr ardal
  • unrhyw un fydd yn nodi y byddai’r sŵ yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch unrhyw un fyddai’n byw gerllaw iddi
  • unrhyw unigolyn arall y byddai ei ohebiaeth yn arwain at benderfyniad gan yr awdurdod i ddefnyddio grym neu ddyletswydd i wrthod neu ganiatáu trwydded.

Cyn caniatáu neu wrthod rhoi’r drwydded, bydd yn ofynnol i’r awdurdod lleol drafod unrhyw adroddiadau gan arolygwyr wedi iddynt archwilio’r sŵ, ymgynghori gyda’r ymgeisydd ynghylch unrhyw amodau y bwriadant eu cynnwys gyda’r drwydded a gwneud trefniadau ar gyfer cynnal archwiliad. Bydd yr awdurdod lleol yn rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd cyn yr archwiliad.

Ni fydd yr awdurdod lleol yn caniatáu’r drwydded os byddant yn teimlo y byddai’r sŵ yn effeithio’n andwyol ar iechyd neu ddiogelwch y bobl sy’n byw gerllaw, neu yn effeithio’n ddifrifol ar gynnal cyfraith a threfn neu os nad ydynt yn fodlon y byddai mesurau cadwraeth priodol yn cael eu gweithredu’n ddigonol.

Hefyd, mae’n bosibl y caiff trwydded ei gwrthod:

  • os nad yw'r awdurdod lleol yn fodlon bod safonau'r llety, staffio neu reolaeth yn addas i gynnal safon briodol o ofal a lles ar gyfer yr anifeiliaid neu ar gyfer gweithredu'r sŵ yn briodol
  • os yw'r ymgeisydd neu - os yw’r ymgeisydd yn gwmni ymgorfforedig - y cwmni neu unrhyw rai o gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddogion cyffelyb y cwmni, neu geidwad o fewn y sŵ, wedi ei ddyfarnu'n euog o unrhyw drosedd yn ymwneud â cham-drin anifeiliaid

Ni chaiff ceisiadau am adnewyddu trwyddedau eu hystyried ddim hwyrach na 6 mis cyn i'r drwydded bresennol ddod i ben, oni bai fod yr awdurdod lleol yn caniatáu cyfnod byrrach o amser.

Gall yr Ysgrifennydd Gwladol, wedi ymgynghori gyda'r awdurdod lleol, eu cyfarwyddo i osod un amod neu ragor ar drwydded.

Mae'n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol y dylid penderfynu nad oes angen trwydded oherwydd nifer fach yr anifeiliaid a gedwir yn y sŵ neu oherwydd nifer fach y mathau o anifeiliaid a gedwir ynddi.

Gwneud cais
Am ragor o wybodaeth a ffurflen gais, ffoniwch 01766 771000.

Ffioedd

Trwyddedu Eiddo Anifeiliaid 2023 - 2024


Crynodeb rheoliadau
Deddf Trwyddedu Sŵ 1981 

A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Na fydd. Er budd y cyhoedd mae’n ofynnol i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn amser rhesymol, cysylltwch â hwy.

Gweithredu pan fydd cais yn methu
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Os gwrthodir trwydded i’r ymgeisydd, gall apelio yn y Llys Ynadon o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad pan fo’n derbyn hysbysiad ysgrifenedig o’r gwrthodiad.

Camau gan ddeiliad trwydded
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Gall deiliad trwydded apelio yn y Llys Ynadon yn erbyn:

  • unrhyw amod a roddir ar drwydded neu unrhyw amrywiad neu ddiddymiad o amod
  • gwrthod caniatáu trosglwyddo’r drwydded
  • cyfarwyddyd i gau sŵ
  • camau gorfodi ar sail unrhyw amod na chadwyd ati.

Rhaid gwneud yr apêl o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad pan fo deiliad y drwydded yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad yr awdurdod ar y mater.

Cwyn gan ddefnyddwyr
Os ydych, fel defnyddiwr, am wneud cwyn, ein cyngor fyddai i chi gysylltu â'r masnachwr trwy lythyr (gyda phrawf danfon). Os na fydd hynny yn llwyddiannus, ac os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi. Y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU (UK European Consumer Centre).