Trwyddedu amgylcheddol

Mae trwyddedu amgylcheddol yn ffordd o reoli rhai mathau o osodiadau diwydiannol sydd â’r gallu i greu llygredd.  

Mae trwyddedu amgylcheddol yn ffordd o reoli rhai mathau o osodiadau diwydiannol sydd â’r gallu i greu llygredd.  

Mae tri dosbarth math gwahanol o drwydded, sef:

Trwyddedau Rhan A1

Rheolir gosodiadau sydd angen trwydded A1 gan Asiantaeth yr Amgylchedd a dyma’r diwydiannau a ystyrir yn gyffredinol yw’r rhai sy’n llygru fwyaf.  Mae’r gosodiadau hyn yn cynnwys gorsafoedd ynni mawr, gweithiau cemegol a phrosesau diwydiannol trwm.   Mae eiddo A1 yn cael eu rheoli o ran gollyngiadau i'r awyr, i'r tir ac i ddŵr.  Caiff agweddau amgylcheddol eraill fel sŵn, dirgrynu, rheoli gwastraff a'r defnydd o ynni hefyd eu hystyried.


Trwyddedau Rhan A2

Mae gosodiadau sydd angen trwydded A2 yn cael eu rheoli gan y Cyngor. Ystyrir fod y llygredd gaiff ei greu gan osodiadau o’r fath o risg cymedrol.  Mae eiddo A2 hefyd yn cael eu rheoli o ran gollyngiadau i’r awyr, i'r tir, i'r dŵr ac ystyriaethau amgylcheddol eraill.


Trwyddedau Rhan B

Mae diwydiannau neu osodiadau sydd angen trwydded rhan B yn cael eu rheoli o ran gollyngiadau i’r awyr yn unig.  Bydd gweithfeydd concrid, prosesau chwarel a llosgwyr olew gwastraff yn syrthio i’r categori hwn.

 

Rhagor o fanylion

Mae rhagor o wybodaeth a manylion am y gosodiadau sydd angen caniatâd i’w gweld yn y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 - Atodlen 1

Mae’n bosib y byddwch angen trwydded i weithredu unrhyw osodiad sy’n ymgymryd â gweithgareddau a restrir yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 - Atodlen 1

Efallai y bydd hefyd angen trwydded ar gyfer gweithgareddau gwaredu gwastraff neu adfer sydd ddim yn eithriedig o dan y rheoliadau.

Os nad ydych yn sicr os oes angen trwydded ai peidio, cysylltwch â ni:

Mae rhagor o gymorth hefyd ar gael ar wefan Gov.uk

Ffurflenni cais

Mae ffurflenni cais am drwyddedau Amgylcheddol Awdurdod Lleol ar gael drwy gysylltu â ni: 

 

Ceisiadau hwyr

Pan fo gweithredwr wedi bod yn gweithredu gweithgaredd a restrir mewn gosodiad yn anghyfreithlon heb drwydded, gellir gofyn iddo gyflwyno cais ôl weithredol. Bydd ffi ceisiadau ôl weithredol yn uwch. 


Newid manylion trwydded

Gall deilydd trwydded bresennol wneud cais i drwydded gael ei haddasu, trosglwyddo neu ildio. Ble fo newid sylweddol arfaethedig i osodiad presennol y drwydded, neu ble fo'r Cyngor o'r farn fod angen newid mewn trwydded rhaid dilyn gweithdrefn ffurfiol. Cysylltwch â ni:

Mae ffi yn daladwy i’r Cyngor pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded neu am amrywio trwydded, trosglwyddo neu ildio trwydded bresennol.  Nid oes tâl i drosglwyddo neu ildio trwydded ffi gostyngol.

 Wedi i'ch cais gael ei dderbyn byddwn yn anfon anfoneb atoch.  Os ydych yn anfon y tâl gyda’ch cais yna bydd anfoneb ôl-weithredol yn cael ei hanfon atoch. Mae hefyd yn bosib talu yn unrhyw un o Siopau Gwynedd (ar ôl i chi dderbyn anfoneb)



Tâl cynhaliaeth

Pan gyflwynir trwydded rhaid i weithredwr y gosodiad gydymffurfio gyda'r amodau, a thalu tâl cynhaliaeth flynyddol i dalu am gostau archwilio'r Cyngor.

Fel arfer mae amodau trwyddedau wedi eu seilio ar nodiadau canllaw sy’n benodol i brosesau’r diwydiant.   Gweld nodiadau  

Bydd y tâl cynhaliaeth a nifer yr archwiliadau blynyddol gan swyddogion y Cyngor yn amrywio ac yn dibynnu os yw’r gosodiad yn cael ei ystyried yn risg isel, canolig neu uchel.  Mae gan bob gweithredwr yr hawl i wybod sut mae’r Cyngor yn sefydlu'r cynllun sgorio risg i’w gosodiad. 

Mae rhai o’r gosodiadau llai a ystyrir yn llai cymhleth ac sydd â risg isel o lygredd amgylcheddol, yn achosi ffioedd cynhaliaeth blynyddol gostyngol. Mae’r gosodiadau hyn yn cynnwys llosgwyr olew gwastraff, sych-lanhawyr a gorsafoedd petrol.

Os yw cais yn cael ei wrthod neu os nad yw'r gweithredwr yn cytuno gydag unrhyw amodau a osodwyd mewn rhan o drwydded gall gyflwyno apêl i'r Arolygiaeth Gynllunio.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio

Gosodiadau A1        

Mae’r holl Mae'r holl osodiadau Rhan A1 yn cael eu rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru

 

Gosodiadau A2

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw osodiadau A2 gan Gyngor Gwynedd.


Gosodiadau Rhan B

Gweld cofrestr trwyddedau Rhan B sydd wedi eu cyflwyno gan Gyngor Gwynedd

 

Cofrestr Awdurdod Lleol o Weithgareddau Gwastraff Eithriedig

Mae eithriadau Trwydded Rheoli Gwastraff  i weithgareddau Rhan B sy’n cwrdd â gofynion cyffredinol Rheoliad 17 o Reoliadau TRhG ac yn pennu amodau i’r gweithgaredd a nodir yn Atodlen 3 o Reoliadau Trwyddedu Rheoli Gwastraff.  Ar hyn o bryd nid oes gan Gyngor Gwynedd unrhyw eithriadau wedi eu cofrestru.


Sylweddau Ymbelydrol 

Nid oes gan Gyngor Gwynedd unrhyw gofnod yn y gofrestr sylweddau ymbelydrol ar hyn o bryd.  

 

Am ragor o wybodaeth, cysyllwch â ni: